Heol yr Eglwys, Aberbîg, NP13 2AA

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Gorchymyn (Terfyn Cyflymder 20 Mya)

RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y Ddeddf”), fel y’I diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, yn cynnig y canlynol:

1. Cyflwyno terfyn cyflymder is o 20 mya ar y darn o ffordd a bennir yn Atodlen 1 i’r hysbysiad hwn.

2. Bydd ffyrdd o boptu’r darn hwnnw o ffordd a bennir yn Atodlen 1 yn cadw’r terfynau cyflymder presennol.

Mae dogfennau’n rhoi mwy o fanylion am y cynigion ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn. Byddant yn cynnwys copïau o’r atodlenni arfaethedig a mapiau sy’n nodi’r darnau o ffyrdd y mae’r gorchmynion arfaethedig yn ymwneud â hwy, ynghyd â datganiad y cyngor o’r rhesymau dros gynnig gwneud y diwygiadau i’r gorchmynion.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r gorchmynion arfaethedig anfon datganiad ysgrifenedig gydag unrhyw sylwadau ar y cynigion at Mr C. Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, NP23 6DN. Dylai unrhyw sylwadau gael eu hanfon a’u cyrraedd o fewn 21 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad a chael eu marcio’n glir: “Er sylw Mr C. Rogers”. Fel arall, gallwch anfon neges e-bost at: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk.

Bydd y cyngor bwrdeistref sirol yn ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r hysbysiad hwn. Gellir eu dosbarthu’n eang at y dibenion hyn a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd. Gellir gweld cynlluniau ac amserlenni ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.

ATODLEN 1

Heol yr Eglwys, Aberbîg, NP13 2AA O’i chyffordd â Brynithel Terrace, Brynithel, Abertyleri, i gyfeiriad y gogledd-orllewin am bellter o 328 metr.

DYDDIEDIG: Dydd Iau 24 Gorffennaf

Clive Rogers

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

Dogfennau Cysylltiedig