Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Gorchymyn Gorfodi Parcio Sifil a Chydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (Diwygiad Rhif 13)
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y Ddeddf”), fel y diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (Deddf ‘2004’) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.
• Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 13, a fydd yn cael yr effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”) er mwyn sicrhau defnydd diogel ac effeithlon o’r rhwydwaith priffyrdd.
• Effeithiau’r gorchymyn fydd cyflwyno gwaharddiad ar aros (llinell felen ddwbl) ar y darn o ffordd a nodir ar fapiau atodol H18A ac H19A.
Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun yn dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac y byddant felly tan y dyddiad dod i ben o 21 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r hysbysiad hwn.
Os dymunwch wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon sail eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 20 Mehefin 2024.
Bydd angen i wrthwynebiadau fod drwy e-bost neu ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol.
E-bost: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk ysgrifennwch at: Blaenau Gwent County Borough Council, General Offices, Steelworks Road, Ebbw Vale, NP23 6DN.
DYDDIEDIG: 30 Mai 2024
CLIVE ROGERS
Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol