Gwahardd a Chyfyngu Ar Aros a Llwytho A Mannau Parcio ar y Stryd

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Gorchymyn Gorfodi Parcio Sifil a Chydgrynhoi (Gwahardd a Chyfyngu Ar Aros a Llwytho A Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (Rhif Diwygio 19)

RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’i diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.

  • Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 19, a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Amrywiol Ffyrdd) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”). Mae’r cyngor o’r farn y byddai’r gorchymyn i gael gwared ar y llinellau melyn dwbl lle nad oes eu hangen mwyach yn darparu parcio ychwanegol heb gyfyngiadau I drigolion yn yr ardal.
  • Effaith y gorchymyn fydd diddymu’r cyfarwyddyd Dim aros ar unrhyw adeg ar hyd y ffyrdd a nodir ar atodlenni map L27, L30, O21A, P23A, Q25 a Q26.
  • Effaith y gorchymyn fydd diddymu’r cyfarwyddyd Dim aros 8am - 6pm” ar hyd y ffyrdd a nodir ar atodlenni map AA47, L27 ac P14. Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.

Os ydych chi am wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 13 Tachwedd 2025.

Bydd angen cyflwyno gwrthwynebiadau mewn neges e-bost neu drwy ysgrifennu fel yr amlinellir isod:

E-bost: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk neu

ysgrifennwch at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau

Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur,

Glynebwy, NP23 6DN.

DYDDIEDIG: 23 Hydref 2025

MARK THOMAS

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaeth a’r Amgylchedd

Dogfennau Cysylltiedig