Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Stryd Gwlad Yr Haf, Abertyleri, 2025

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984

(Gorchymyn Rheoleiddio Traffig)

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Stryd Gwlad Yr Haf, Abertyleri, 2025

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel “y Cyngor”), wrth arfer ei bwerau o dan adrannau 9 a 10 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 fel y’i diwygiwyd (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “Deddf 1984”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III o Atodlen 9 i Ddeddf 1984, drwy hyn yn gwneud y gorchymyn canlynol:

ENWI

1.      Daw’r gorchymyn hwn i rym ar 1 Rhagfyr 2025 a gellir cyfeirio ato fel Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Stryd Gwlad yr Haf, Abertyleri, 2025.

2.     Bydd Gorchymyn Rheoleiddio Traffig (Arbrofol) Stryd Gwlad yr Haf, Abertyleri, 2024, sef gorchymyn rheoleiddio traffig a wnaed gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn cael ei ddirymu pan ddaw’r gorchymyn hwn i rym.

Y GORCHYMYN

3.     Ni chaiff neb beri i unrhyw gerbyd modur fynd ar hyd y ffordd a ddangosir wedi’i lliwio’n las ar luniad rhif TS2245/100 sydd ynghlwm wrth y gorchymyn hwn rhwng 1 Ebrill a 30 Medi.

4.     Ni fydd dim yn Erthygl 3 yn gymwys i unrhyw gerbyd modur a ddefnyddir gan neu ar ran:

a.      yr heddlu, y frigâd dân neu’r gwasanaeth ambiwlans

b.     unigolyn, parti neu sefydliad a awdurdodwyd gan y Cyngor

 

Rhoddwyd o dan sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y 1af diwrnod hwn o fis Rhagfyr 2025.

Gosodwyd sêl gyffredin      )

Cyngor Bwrdeistref           )

Sirol Blaenau Gwent            )

yma ym                             )

mhresenoldeb:                    )

 

Swyddog Awdurdodedig

 

ATODLEN 1

GWAHARDD GYRRU 

1 EBRILL I 30 MEDI

DYDD LLUN – DYDD SUL

Stryd Gwlad yr Haf o’i chyffordd â Stryd Fawr i gyfeiriad deheuol i’w chyffordd â Stryd Fasnachol.

Dogfennau Cysylltiedig