Cyflwyno marciau “Ysgol – Cadwch yn Glir” Stryd y Llwyfen, Cwm

Gorchymyn Gorfodi Parcio Sifil a Chydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019

(Diwygiad Rhif 17)

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati yma wedi hyn fel “y Ddeddf”), fel y diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (“Deddf 2004”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.

1.     Mae Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Ffyrdd Amrywiol) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio) 2019 drwy hyn wedi’i ddiwygio fel y nodir isod. Bydd y map atodol a nodir yn yr atodlen gyntaf yn cael ei ddiwygio a bydd y map atodol a nodir yn yr ail atodlen i’r gorchymyn hwn yn cael ei weithredu.

2.     Enw’r gorchymyn yw Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Ffyrdd Amrywiol) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio) 2019 (Diwygiad Rhif 17) a daw i rym ar DDYDDIAD 20XX.

 

Cyflwyno marciau “Ysgol – Cadwch yn Glir” Stryd y Llwyfen, Cwm

Atodlen Gyntaf

Map atodol i’w ddiwygio

R37

 

Ail Atodlen

Map atodol i’w fewnosod

R37A

 

Rhoddir o dan sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y XX diwrnod hwn o FIS 20XX.

Sêl gyffredin

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Ellie Fry

Cyfarwyddwr Corfforaethol

Gwasanaethau Adfywio a Chymunedol

Dogfennau Cysylltiedig