Croesfan Arfaethedig i Gerddwyr ar Heol Darrenfelin, Bryn-Mawr

Hysbysiad Cyhoeddus

Adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Croesfan Arfaethedig i Gerddwyr ar Heol Darrenfelin, Bryn-Mawr

Rhoddir HYSBYSIAD drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau

o dan adran 23 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a phob pŵer galluogi arall, yn cynnig y canlynol:

a. Gosod croesfan twcan yn y lleoliad a ddisgrifir yn yr atodlen i’r hysbysiad hwn.

Rheswm dros y cynnig: Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi nodi Heol Darrenfelin fel lleoliad addas ar gyfer cyfleuster croesfan twcan.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi llwyddo i gael cyllid i weithredu cyfleuster croesfan fel rhan o waith i ddatblygu llwybr teithio llesol i wella teithiau i gerddwyr a beicwyr a bod o fudd i’r gymuned ehangach.

Bydd y gwaharddiad arferol ar gerbydau yn berthnasol, gan eu hatal rhag stopio, aros, llwytho a dadlwytho ar y gerbytffordd o fewn y mannau sydd wedi’u nodi gan linellau igam-ogam o boptu’r groesfan.

Dylai unrhyw un sy’n dymuno gwrthwynebu’r gorchmynion arfaethedig anfon datganiad ysgrifenedig gydag unrhyw sylwadau yn ymwneud â’r cynigion at

Mr C. Rogers, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol, 

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, NP23 6DN.

Dylai unrhyw sylwadau gael eu hanfon a’u cyrraedd o fewn 21 diwrnod i gyhoeddi’r hysbysiad a chael eu marcio’n glir:

At sylw Mr C. Rogers”. Fel arall, gallwch anfon e-bost

at: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov.uk

Bydd y cyngor bwrdeistref sirol yn ystyried sylwadau a dderbyniwyd mewn ymateb i’r hysbysiad hwn. Gellir eu lledaenu’n eang at y dibenion hyn a’u gwneud ar gael i’r cyhoedd.

Gellir gweld cynlluniau ac atodlenni ar wefan Blaenau Gwent.

DYDDIEDIG: 5 Rhagfyr, 2024

CLIVE ROGERS

Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol

Dogfennau Cysylltiedig