Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) (Gorfodi Parcio Sifil a Chydgrynhoi) 2019 (Rhif Diwygio 21)
RHODDIR HYSBYSIAD DRWY HYN fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a
Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’i diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli
Traffig 2004 (“Deddf 2004”) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen.
1. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 21, a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Amrywiol Ffyrdd) (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”). Mae’r cyngor o’r farn y bydd y gorchymyn I gynyddu nifer y lleoedd parcio sydd argael i bobl anabl ar y stryd yn darparu parcio hygyrch ychwanegol i ddeiliaid Bathodyn Glas ar Stryd yr Eglwys, Abertyleri.
2. Effaith y gorchymyn fydd ymestyn y lleoedd parcio presennol i bobl anabl ar y stryd yng nghanol tref Abertyleri i greu baeau parcio ychwanegol I bobl anabl sy’n ddeiliaid Bathodyn Glas yn unig, fel y nodir ar fap atodol Z43C.
Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos yr ardal gyfyngedig adatganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.
Os ydych chi am wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 5 Mawrth 2026. Bydd angen cyflwyno gwrthwynebiadau mewn neges e-bost neu drwy ysgrifennu fel yr amlinellir isod:
E-bost:BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov. uk neu ysgrifennwch at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN.
DYDDIEDIG: 12 Chwefror 2026
MARK THOMAS
Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaeth a’r Amgylchedd