Gwasanaethau Bws:
Mae sawl gwasanaeth bws yn rhedeg drwy ardal Blaenau Gwent.
Mae amserlenni ar gyfer pob llwybr ar gael ar wefannau’r gweithredwyr isod:
- Gwefan Stagecoach
- Gwefan Phil Anslow Coaches
- Gwefan Bws Casnewydd
- Adventure Travel
- Gwefan Harris Coaches
Os nad ydych yn gwybod pa fws sydd ei angen arnoch, bydd Cynlluniwr Taith Traveline Cymru yn eich helpu. I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch Traveline Cymru ar 0300 200 2233 (cyfradd leol).
Gwasanaethau Rheilffordd
Mae tair gorsaf reilffordd ym Mlaenau Gwent, un yn Llanhiledd a dwy yng Nglynebwy – Parcffordd Glynebwy a Thref Glynebwy.
I gael y wybodaeth ddiweddaraf am drenau, cysylltwch â National Rail Enquiries ar 08457 48 49 50, neu ewch i wefan National Rail. Fel dewis arall, ewch i wefan Trainline neu wefan Trafnidiaeth Cymru.
Cerdyn Teithio Rhatach
Os yw eich prif gyfeiriad yng Nghymru a’ch bod naill ai’n 60 oed a throsodd neu’n bodloni meini prawf cymhwysedd anabledd y Llywodraeth, gallwch deithio am ddim ar y rhan fwyaf o wasanaethau bysiau yng Nghymru a’r gororau a chael gostyngiad neu deithio am ddim ar lawer o wasanaethau trên.
Gallwch wneud cais am eich Cerdyn Teithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
fyngherdynteithio
Gall pobl ifanc ym Mlaenau Gwent rhwng 16 a 21 oed fanteisio ar deithiau bws rhatach diolch i fenter Llywodraeth Cymru. Mae fyngherdynteithio yn rhoi traean oddi ar brisiau tocynnau i bobl ifanc ar unrhyw daith fws leol neu TrawsCymru.
Am ragor o fanylion ewch i wefan fyngherdynteithio neu ffoniwch 0300 2002233.