Etholiad Cyffredinol 2024

Bydd Etholiad Cyffredinol yn cael ei gynnal ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024.

Yn dilyn Adolygiad Cyfnodol 2023 o etholaethau San Steffan, mae Blaenau Gwent a Rhymni bellach yn ffurfio un etholaeth.

Cofrestrwch i bleidleisio.

Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein yma.

Y dyddiad cau i gofrestru ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol yw hanner nos ddydd Mawrth 18 Mehefin 2024.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych eisoes wedi cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'n swyddfa Gwasanaethau Etholiadol: 

Pleidleisio drwy'r post

Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwn, ewch i Pleidleisio drwy’r Post i wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost neu i ganslo neu ddiwygio pleidlais bost bresennol yn yr etholiad hwn yw 5pm ddydd Mercher 19 Mehefin 2024.

Rheolau trafod pleidleisiau post newydd 

Mae rheolau newydd wedi'u cyflwyno ynghylch trafod pleidleisiau post:

· Bydd cyfyngiad ar nifer y pleidleisiau post y gall person eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor

· Ni chaniateir i chi gyflwyno mwy na phum pecyn pleidlais bost ar gyfer etholwyr eraill yn ogystal â'ch un chi (cyfanswm o 6)

· Os bydd unigolyn yn cyflwyno mwy na phum pecyn pleidlais bost ar gyfer etholwyr eraill, bydd yr holl bleidleisiau (heblaw ei un ei hun) yn cael eu gwrthod

· Bydd angen i unrhyw un sy'n cyflwyno’r pleidleisiau post lenwi ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post'

· Ni allwn bellach dderbyn pleidleisiau post sy’n cael eu gadael yn y blwch llythyrau yn swyddfeydd y cyngor

· Bydd unrhyw bleidleisiau post sy'n cael eu gadael mewn unrhyw adeilad cyngor heb lenwi'r ffurflen 'dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post' yn cael eu gwrthod

· Rydym yn argymell y dylid dychwelyd pleidleisiau post atom drwy'r Post Brenhinol cyn gynted â phosibl cyn y diwrnod pleidleisio.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i Pleidleisio drwy Ddirprwy i wneud cais. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais ddirprwy yw dydd Mercher 26 Mehefin 2024.

Os sylwch na allwch bleidleisio mewn person ar ôl 5pm ar 26 Mehefin, am resymau meddygol neu waith, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am bleidlais ddirprwy frys.

Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth. 

Adnabod pleidleiswyr

Bellach, mae angen cyflwyno Prawf Adnabod derbyniol wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ar gyfer Etholiad Cyffredinol.

Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys mathau derbyniol o Brawf Adnabod a Thystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr, ewch i'n tudalen Prawf Adnabod Pleidleisiwr. Mae Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr yn para 10 mlynedd, felly os cawsoch un ar gyfer etholiad y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gallwch ei defnyddio ar gyfer yr etholiad hwn hefyd. 

Gwybodaeth i ddarpar ymgeiswyr

Gellir dod o hyd i ganllawiau ac adnoddau helaeth ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar wefan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cynnwys:

· Beth sydd angen i chi ei wybod cyn sefyll mewn etholiad

· Gwariant ymgeiswyr

· Ymgyrchu

· Enwebiadau

· Pleidleisiau post

· Diwrnod pleidleisio

· Dilysu a chyfrif

· Ar ôl yr etholiad

Mae ffurflenni enwebu ar gael yma.

Mae Hysbysiadau Etholiad ar gael isod.