Bydd Etholiad y Senedd yn cael ei gynnall ddydd Iau, 7 Mai 2026.
Nid oes angen Dogfen Adnabod Pleidleisiwr arnoch i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
O fis Mai 2026, bydd nifer etholaethau'r Senedd yn gostwng o 40 i 16, ond bydd chwe Aelod yn cynrychioli pob un. Bydd cyfanswm nifer yr Aelodau yn cynyddu o 60 i 96.
I Flaenau Gwent, mae hyn yn olygu y bydd y fwrdeistref sirol yn cael ei gorchuddio gan etholaeth newydd
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni: wedi'i greu o etholaethau Seneddol y DU Blaenau Gwent & Rhymni a Chaerphilly
Dyma fap o’r etholaeth newydd
Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
System bleidleisio newydd
Mae'r ffordd rydych chi'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd wedi newid. Byddwch nawr yn pleidleisio gan ddefnyddio system bleidleisio o'r enw 'system rhestr gyfrannol gaeedig' i ethol Aelodau'r Senedd. Mae hyn yn fath o gynrychiolaeth gyfrannol. Mae hyn yn golygu po fwyaf o bleidleisiau y mae plaid wleidyddol neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael, y mwyaf o seddi y byddant yn eu hennill.
Bydd y papur pleidleisio yn gofyn i chi 'bleidleisio unwaith yn unig trwy roi X yn y blwch pleidleisio wrth ymyl eich dewis'.
Bydd y papur pleidleisio yn dangos rhestr o ymgeiswyr ar gyfer pob plaid wleidyddol. Mae'r pleidiau yn dewis y drefn y mae ymgeiswyr yn ymddangos ar y rhestr. Mae'r bobl ar frig y rhestr yn cael eu hethol yn gyntaf.
Er enghraifft, os yw plaid wleidyddol yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson cyntaf ar eu rhestr yn cael eu hethol.
Os bydd ymgeisydd annibynnol yn ennill digon o bleidleisiau, byddant yn ennill sedd yn y Senedd.
Bydd seddi yn adlewyrchu canran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn eu cael.
I gael gwybodaeth am y pleidiau a'r ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal chi, ewch i Bwrwpleidlais.Cymru.
Amserlen digwyddiadau allweddol
|
Digwyddiad |
Dyddiad |
|
Hysbysiad o Etholiad |
23 Mawrth |
|
Anfon cardiau pleidleisio |
27 Mawrth |
|
Dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau |
9 Ebrill (4yp) |
|
Cyhoeddi datganiad am y bobl a enwebwyd |
10 Ebrill (4yp) |
|
Anfon pleidleisiau drwy'r post |
20 Ebrill |
|
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio |
20 Ebrill |
|
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais post |
21 Ebrill (5yp) |
|
Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy |
28 Ebrill (5yp) |
|
Diwrnod pleileisio |
7 Mai (7yb i 10yh) |
|
Dilysu |
7 Mai (10yh) |
|
Cyfrif |
8 Mai (10yh) |
Cofrestru i bleidleisio
Er mwyn pleidleisio mewn etholiad hyn mae'n rhaid i chi:
- fod wedi Cofrestru i bleidleisio
- yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad ('diwrnod pleidleisio')
- byw yng Nghymru
- peidio â chael eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio
Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein: Cofrestru i bleidleisio
Y dyddiad cau i gofrestru yw hanner nos, dydd Llun 20 Ebrill.
Os nad ydych yn siŵr a ydych eisoes wedi'ch cofrestru i bleidleisio, cysylltwch â'r swyddfa gwasanaethau etholiadol:
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
- E-bost: electoral.services@blaenau-gwent.gov.uk
- Ffôn: 01495 369706
Pleidleisio drwy'r post
Os oes angen i chi bleidleisio drwy'r post yn yr etholiad hwn, cysylltwch â Gwasanaethau Etholiadol am ffurflen gais.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy'r post, neu i ganslo neu newid pleidlais drwy'r post bresennol yn yr etholiad hwn yw 5yp ar ddydd Mawrth 21 Ebrill.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Os hoffech i rywun arall bleidleisio ar eich rhan yn yr etholiad hwn, ewch i Bleidleisio drwy ddirprwy i wneud cais.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais am bleidlais drwy ddirprwy yw 5yp ar ddydd Mawrth 28 Ebrill.
Os ar ôl 5yp ar 28 Ebrill nad ydych yn gallu pleidleisio'n bersonol, oherwydd rhesymau meddygol neu waith, efallai y bydd gennych hawl i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys.
Cysylltwch â'r tîm Gwasanaethau Etholiadol i gael rhagor o wybodaeth.
Pleidleisio hygyrch
Rydym yn ceisio gwneud ein holl orsafoedd pleidleisio yn hygyrch i gadeiriau olwyn a gallwn ddarparu rampiau lle bo angen.
Yn ogystal â hyn:
- Mae gan bob gorsaf bleidleisio fwth pleidleisio wedi'i addasu ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn
- Mae fersiynau print mawr o bapur(au) pleidleisio ar gael ym mhob gorsaf bleidleisio, ynghyd â chymhorthion i alluogi pleidleiswyr dall i nodi eu papurau pleidleisio heb gymorth
- Papur Pleidleiso Sain
- Os ydych chi'n bleidleisiwr Anabl ac mae angen cymorth arnoch i gwblhau papur pleidleisio ar eich pen eich hun, gallwch fynd â ffrind neu berthynas i'r orsaf bleidleisio i'ch cynorthwyo
- Gall y Swyddog Llywyddu yn yr orsaf bleidleisio eich helpu chi i lenwi'ch papur pleidleisio
- Dyfais Bleidleisio Gyffyrddadwy ar gyfer pobl â nam ar eu golwg
- Chwyddwydrau
- Gripiau pensil
- Cadeiriau i bobl na allant sefyll am gyfnodau hir
Ymgeiswyr ac Asiantiaid
Y Swyddog Canlyniadau ar gyfer Etholaeth Blaenau Gwent Caerffili Rhymni fydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Ar gyfer unrhyw ymholiadau gan ymgeiswyr ac asiantiaid, cysylltwch â Chyngor Caerffili drwy ffonio 01443 866586 neu drwy anfon e-bost at yr Is-swyddog Dychwelyd beechd@caerphilly.gov.uk
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Caerffili yn y ddolen ganlynol
Caerffili - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Hysbysiadau