Os ydych yn arddangos neu’n hyfforddi anifeiliaid sy’n perfformio yn Lloegr, Cymru neu’r Alban, mae’n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru gyda’r Cyngor.
Pwy all wneud cais?
Unrhyw berson sy’n arddangos neu’n hyfforddi anifeiliaid sy’n perfformio.
Mae’n rhaid i geisiadau gynnwys manylion am yr anifeiliaid a natur gyffredinol y perfformiadau. Bydd ffi, a benderfynir gan y Cyngor, yn daladwy wrth wneud y cais.
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r drwydded hon.
Sut caiff fy nghais ei brosesu?
Darperir tystysgrif gofrestru gan y Cyngor a chofnodir manylion y cofrestriad ar gofrestr gyhoeddus.
A oes yn rhaid i fi dalu ffi ymgeisio?
Oes. Os gwelwch yn dda, edrychwch ar y Ffioedd a’r Prisiau.
Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
Bydd eich cais yn cymryd saith niwrnod i’w brosesu ac fe fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Golyga hyn y byddwch yn gallu gweithredu fel pe bai’ch cais wedi ei ganiatáu os nad ydych wedi clywed oddi wrth y Cyngor wedi’r cyfnod cwblhau targed o saith niwrnod.
Gwneud cais ar-lein
A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?
Nid oed proses apêl gan y caiff eich cofrestriad ei gymeradwyo oni bai i chi gael eich gwahardd o gael eich cofrestru gan Orchymyn y Llys. Am fwy o wybodaeth parthed ceisiadau a wrthodwyd cysylltwch, os gwelwch yn dda, ag adran Iechyd yr Amgylchedd.
Cwyn Defnyddiwr
Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch ag adran Iechyd yr Amgylchedd
Cofrestr Gyhoeddus
Cliciwch yma, os gwelwch yn dda, am wybodaeth ynghylch gweld y cofrestrau cyhoeddus.
Cymdeithasau Masnach
Cymdeithas Ryngwladol Hyfforddwyr Anifeiliaid Morol
Cymdeithas Perchnogion Syrcasau Prydain Fawr
Gwybodaeth Gyswllt
Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â
Gwasanaeth Amddiffyn y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB
Ffôn: 01495 369542
Ffacs: 01495 355834