Crynodeb o Hylendid Bwyd a Gymeradwywyd
Os ydych yn gweithredu math penodol o safle bwyd megis safle prosesu cig fe allai fod angen i chi gael eich cymeradwyo gan eich Cyngor. Mae hyn yn ychwanegol at y gofynion arferol i gofrestru fel busnes bwyd.
Mae enghreifftiau o’r mathau o safleoedd sydd angen eu cymeradwyo gan awdurdodau lleol yn rhai annibynnol (h.y. safleoedd heb fod yng nghlwm wrth ladd-dy, ffatri dorri neu safle trafod helgig) o’r natur ganlynol:
- safleoedd prosesu cig
- safleoedd paratoi cig
- gweithrediadau prosesu briwgig a gweithfeydd prosesu cig wedi’i wahanu’n fecanyddol
- storfa oer
Sylwch NAD yw’r uchod yn rhestr faith a dylech gysylltu â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd i benderfynu a fydd angen cymeradwyaeth ar eich busnes bwyd.
Pwy All Wneud Cais?
Nis oes cyfyngiadau ar bwy all wneud cais am gofrestru busnes bwyd.
Pa ddeddfwriaeth sy’n rheoli’r cais hwn?
Crynodeb o’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â chymeradwyaeth
Cyfarwyddyd pellach ar Ddeddfwriaeth Hylendid Ewropeaidd.
A oes yn rhaid i fi dalu ffi am gofrestru?
Nid oes ffi yn daladwy am y cais hwn.
Faint fydd hi’n cymryd i brosesu fy nghais ac a fydd caniatâd dealledig yn weithredol?
Bydd eich cais yn cymryd hyd at 28 niwrnod i’w brosesu. Ni fydd caniatâd dealledig yn weithredol. Mae o ddiddordeb cyffredinol fod yn rhaid i awdurdod brosesu’ch cais cyn y gellir ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed oddi wrth yr awdurdod lleol o fewn 28 niwrnod, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, ei bod yn drosedd gweithredu busnes bwyd sydd angen cymeradwyaeth heb i’r gymeradwyaeth ofynnol fod yn ei lle.
Gwnewch gais neu fel arall gellir darparu copi o’r ffurflen gais i chi o wneud cais amdani.
A allaf i apelio os yw fy nghais yn aflwyddiannus?
Cysylltwch, os gwelwch yn dda, â’r Tîm Masnachol o fewn Iechyd yr Amgylchedd yn y lle cyntaf ynghylch unrhyw geisiadau cofrestru a ddychwelwyd neu a wrthodwyd.
Cwyn Defnyddiwr
Petaech yn dymuno gwneud cwyn, os gwelwch yn dda, cysylltwch â’r Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd.
Cyngor Ychwanegol i Weithredwyr Busnesau Bwyd parthed ceisiadau Mangreoedd a Gymeradwywyd
Gellir derbyn gwybodaeth bellach parthed y broses gymeradwyo oddi wrth y Tîm Masnachol o fewn Gwasanaeth Iechyd yr Amgylchedd. Mae cyngor a rhestr o’r safleoedd cyfredol yn rhwym wrth gymeradwyaeth o fewn y DU, gan gynnwys y rheiny o fewn ardal Blaenau Gwent, hefyd ar gael ar food.gov.uk.
Gwybodaeth Gyswllt
Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk