Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus 2022

Y cyfnod ymgynghori

Dechreuodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer cyflwyno gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn yn y fwrdeistref rhwng 19 Gorffennaf 2022 a 17 Awst 2022. Ystyriwyd yr holl sylwadau a gafwyd fel rhan o’r broses ymgyghori a’u cynnwys fel rhan o’r broses benderfynu.

Roedd y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn yn cynnig ailgyflwyno tair trosedd –

  1. Baeddu Tir gan Gŵn - bydd hyn yn weithredol ar draws y Fwrdeistref Sirol, lle bydd yn drosedd peidio glanhau ar ôl ci.
  2. Ardaloedd Gwahardd Cŵn - bydd hyn yn weithredol i ardaloedd penodol o dir a ddynodwyd gan y cynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd caniatau i gi fynd i mewn i ardal a ddynodwyd fel ardal lle gwaharddwyd cŵn.
  3. Ardaloedd Cŵn ar Dennyn - bydd hyn yn weithredol i ardaloedd penodol o dir a ddynodir ar gynlluniau lleoliad, lle bydd yn drosedd peidio cadw ci ar dennyn mewn ardal a ddynodwyd fel ardal cŵn ar dennnyn.

Y canlyniad

Yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2022 trafododd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent gyflwyno gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus newydd ar gyfer mesurau rheoli cŵn a’r lleoliadau penodol yr effeithir arnynt. Cafodd y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli eu cŵn eu cymeradwyo gan CBS Blaenau Gwent gyda dyddiad dechrau o 1 Tachwedd 2022. Bydd y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn yn disodli’r gorchymyn presennol a gyflwynwyd yn 2019.

Caiff yr holl ardaloedd a gafodd eu cynnwys fel naill ai ardal gwahardd cŵn neu ardal cŵn ar dennyn gan y gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus eu dynodi gan gynlluniau lleoliad a’r ddogfen gyfeirio isod.

Newidiadau i safleoedd penodol -

  • Tir Hamdden Llanhiledd - PSPO-DC-004 & 129 - Cyflwyno ardal cŵn ar dennyn o amgylch y cae chwaraeon. Bydd yr ysgol, y cae chwarae, y llain chwaraeon a’r grîn bowlio yn parhau fel ardaloedd gwahardd cŵn.
  • Tir Lles Brynmawr, Heol Warwick, Brynmawr - PSPO-DC-058 - Cyflwyno ardal cŵn ar dennyn ym mhob rhan o rannau cerdded cyffredinol y tir llesiant. Bydd y caeau chwarae a lleiniau chwaraeon yn parhau fel ardaloedd gwahardd cŵn.
  • Ysgol Sylfaen Brynmawr, Heol Intermediate, Brynmawr - PSPO-DC-061- Gwnaed newid bach i’r ardal gwahardd cŵn yn y safle gan roi ystyriaeth i gynllun gwella Heol Blaenau’r Cymoedd.
  • Parc Bryn Bach, Tredegar – PSPO-DC-106 – cyflwynwyd ardal ychwanegol gwahardd cŵn yn y parc sy’n cyfeirio at yr ardal chwarae mini golff. Mae’r ardaloedd gwahardd cŵn eraill a’r ardal cŵn ar dennyn yn parhau heb newid.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Caiff hysbysiadau cadarnhau eu dangos ym mhob un o’r lleoliadau y byddir yn cyflwyno’r gorchymyn diogelu mannau agored cyhoeddus ar gyfer mesurau rheoli cŵn 2022 ynddynt.

Caiff arwyddion rhybudd hefyd eu rhoi ym mhob lleoliad y mae’r gorchymyn yn effeithio arnynt.

Beth yw'r gosb am fethu cydymffurfio gyda gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus - rheoli cŵn?

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig hysbysiad cosb sefydlog o £100 am droseddau o fewn y gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus – mesurau rheoli cŵn. Bydd methiant i dalu’r hysbyseb cosb sefydlog yn golygu y bydd yr awdurdod yn cymryd camau cyfreithiol a all arwain at uchafswm dirwy lefel 3 ar y raddfa safonol, sy’n £1,000 ar hyn o bryd.

Gyda phwy y gallaf gysylltu am y gorchymyn diogelu gofod cyhoeddus ar gyfer rheoli cŵn?

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y gorchymyn diogelu gofod cyhoeddus - mesurau rheoli cŵn, cysylltwch â:

Adran Iechyd yr Amgylchedd
Gwasanaeth Diogelu’r Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN

Ffôn: 01495 369542

Ffacs: (01495) 355834

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig