Er mwyn datgladdu olion a gladdwyd neu a amlosgwyd mae angen trwydded Swyddfa Gartref neu Gynneddf yr Esgob, neu mewn rhai achosion, y ddau.
Gall datgladdu ddigwydd am nifer o resymau, gan gynnwys:
- symudiad o’r bedd gwreiddiol i ddarn i dir a ddaeth i ran y teulu yn ddiweddarach
- dychwelyd i’r famwlad i’w losgi gydag aelodau eraill o’r teulu
- trosglwyddo o un fynwent â bwriad i’w datblygu i fynwent arall
- ar orchymyn y crwner ar gyfer archwiliad fforensig pellach
Beth sy’n ofynnol:
Mae’n drosedd datgladdu unrhyw olion dynol cyn cael y caniatadau cyfreithlon angenrheidiol yn gyntaf.
Os yw’r gladdedigaeth ar dir heb ei gysegru, mae’n rhaid cael trwydded gan y Swyddfa Gartref sy’n rhad ac am ddim. Os cleddir person mewn tir cysegredig, mae’n rhaid cael caniatâd gan yr eglwys hefyd. Gelwir hyn yn Gynneddf yr Esgob.
Anaml y caniateir Cynneddf ac mae ffi’n daladwy os caniateir hi ai peidio.
Os cleddir yr olion mewn tir cysegredig ac maent i’w claddu mewn tir nad yw’n gysegredig, mae angen trwydded Swyddfa Gartref a Chynneddf Esgob. Mae’r amodau canlynol hefyd yn gymwys:
- mae trwydded i ddatgladdu’n cynnwys amodau penodol y mae’n rhaid glynu wrthynt;
- mae’n rhaid i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd fod yn bresennol pan ddatgleddir corff i sicrhau nad oes unrhyw fygythiad i ddiogelwch y cyhoedd;
- os yw’r olion i’w claddu mewn gwlad arall bydd angen i’r Swyddfa Gartref gael cadarnhad o’r caniatâd i hyn oddi wrth yr awdurdodau perthnasol;
- Yn achlysurol, mae’n ofynnol cyflwyno tystysgrifau cyrff meirw yn ychwanegol at drwydded ddatgladdu;
Gwedduster a Diogelwch
Mae Swyddog Iechyd yr Amgylchedd yn arolygu’r datgladdiad i sicrhau bod parch i’r ymadawedig yn cael ei gynnal ac yr amddiffynnir iechyd y cyhoedd a bod trefniadau boddhaol yn eu lle ar gyfer trosglwyddo’r olion ymlaen.
Os na ellir cwrdd ag amodau’r drwydded, neu os oes pryderon ynghylch iechyd y cyhoedd neu wedduster, gallai’r datgladdiad beidio â mynd rhagddo.