Yn 2013, cyflwynodd Llywodraeth Cymru Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) gyda’r nod o gynyddu gweithgarwch corfforol dyddiol pobl, hybu llesiant a lleihau’r ddibyniaeth ar geir ar gyfer teithiau byr, pwrpasol.
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru annog cerdded a beicio fel y dull teithio a ffefrir ar gyfer teithiau pwrpasol o fewn pellteroedd byr.
Rhaid i awdurdodau lleol ddylunio a darparu llwybrau teithio llesol addas o fewn ac o amgylch eu haneddiadau, gan ddarparu llwybrau diogel a hygyrch i gerddwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a beicwyr.
Gwyliwch ein hanimeiddiad i gael rhagor o wybodaeth am deithio llesol.
Arolwg ar-lein - Cyswllt Gogledd/De Glyncoed
Hoffem eich gwahodd i gymryd rhan yn ein harolwg i sefydlu sut mae’r llwybr presennol yng Nglyncoed yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac a fydd ein llwybr newydd gwell yn annog preswylwyr i ddewis Teithio Llesol fel eu dull teithio dewisol ar gyfer teithiau byr pwrpasol.
Gallwch gael mynediad i'r arolwg gan ddefnyddio'r cod QR isod neu drwy ymweld â: https://online1.snapsurveys.com/3br1ux
Beth yw teithiau byr, pwrpasol?
Mae taith teithio llesol yn un y gall rhywun ei chymryd ar droed neu ar feic i gyflawni tasg bob dydd, fel:
- Cerdded neu feicio i'r ysgol
- Cerdded neu feicio i'r gwaith
- Cerdded neu feicio i'r orsaf drenau neu fysiau lleol i ddal y trên ar gyfer taith ymlaen
- Cerdded neu feicio i'r siop/fferyllfa/Swyddfa Bost leol
Beth mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn ei wneud am Deithio Llesol yn y gymuned?
Yn 2021, mae’r Cyngor wedi gweithio ochr yn ochr â Sustrans a phartneriaid eraill i ddatblygu ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol, gan gynnwys datblygu a gwella llwybrau newydd a phresennol.
Mae’r llwybrau hyn yn cynnwys:
- Parc Bryn Bach – Garnlydan
- Canol Tref Tredegar - Gerddi Harford
- Ysbyty Glyn Ebwy - Ysgol 3-11
- Beaufort – Nant-y-glo
- Brynmawr – Blaenafon
- Six Bells – Aber-big
- Gorsaf Llanhiledd - Royal Oak
- Royal Oak - Swffryd-Crymlyn
Rydyn ni eisiau gwneud teithio llesol yn rhan arferol o fywyd bob dydd, cerdded i'r ysgol neu'r gwaith yn lle mynd â'r car, nid yn unig y mae'n iachach, mae'n wych i'r amgylchedd hefyd.
Gadewch i ni wneud Blaenau Gwent yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld ag ef, i ni ein hunain ac i genedlaethau’r dyfodol.
Os hoffech chi gymryd rhan a helpu i ddatblygu eich rhwydwaith teithio llesol lleol, cysylltwch â Kathryn Childs - Swyddog Cefnogi Partneriaethau ac Ymgysylltu (Teithio Llesol) kathryn.childs@blaenau-gwent.gov.uk neu ewch i'r dudalen hon am ddiweddariadau yn y dyfodol.