Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014: Sut y bydd hyn yn effeithio ar fy ngofal a'm cymorth?
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn gyfraith newydd a fydd yn rhoi llawer mwy o lais i chi o ran y gofal a'r cymorth a gewch.
I'ch cefnogi i wella eich llesiant, byddwch yn gwneud penderfyniadau am eich gofal mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol. I'ch helpu i wneud hynny, bydd gennych fynediad rhwydd at wybodaeth a chyngor am yr hyn sydd ar gael yn eich ardal chi.
Bydd gan ofalwyr yr un hawliau â'r rhai y maent yn gofalu amdanynt o ran cael asesiadau am gymorth, a bydd gan fwy o bobl yr hawl i gael Taliadau Uniongyrchol.
Bydd proses asesu gofal a chymorth newydd yn seiliedig ar yr hyn sy'n bwysig i chi fel unigolyn. Bydd yn ystyried eich cryfderau personol a'r cymorth sydd ar gael i chi gan eich teulu, eich ffrindiau ac eraill yn y gymuned.
Bydd yr asesiad yn fwy syml a bydd modd i unigolyn ei gynnal ar ran amrywiaeth o sefydliadau.
Bydd mwy o wasanaethau er mwyn rhwystro problemau rhag gwaethygu, er mwyn i'r cymorth cywir fod ar gael pan mae ei angen arnoch chi.
Bydd pwerau cryfach i gadw pobl yn ddiogel rhag cam-drin neu esgeulustod hefyd yn cael eu cyflwyno.
Bydd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn dod i rym ym mis Ebrill 2016. Byddwch yn dilyn y broses newydd yn eich asesiad nesaf.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://gofalcymdeithasol.cymru/
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB