Mae Llywodraeth y DU wedi lansio rhaglen gwerth £560 miliwn i helpu i drawsnewid bywydau pobl ledled y DU. Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi derbyn cyllid drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gefnogi datblygiad rhifedd ymhlith oedolion ar draws y sir.
Mae rhifedd yn golygu gallu defnyddio mathemateg yn gymwys yn eich bywyd bob dydd, gartref, ac yn y gwaith. Mae’n cynnwys rheoli arian gartref, helpu’ch plant gyda’u gwaith cartref, deall ystadegau yn y newyddion, a gwella sgiliau mathemateg sy’n gysylltiedig â gwaith.
Gall gwella sgiliau rhifedd gynyddu’r tebygolrwydd o gyflogaeth, cyflogau uwch, a llesiant gwell. Mae hefyd yn agor drysau i fwy o gyfleoedd hyfforddi, gan baratoi’r ffordd ar gyfer sicrhau swydd fedrus â chyflog uwch!
Mae ein cyrsiau ar gael i unrhyw oedolion (16+) sy’n byw ym Mlaenau Gwent. Nod y cyrsiau hyn yw cynyddu eich hyder, eich helpu i ddeall mathemateg yn eich bywyd bob dydd, a hyd yn oed eich helpu i ddeall sut i gefnogi taith fathemategol eich plentyn!
Mae pob un o’n cyrsiau yn rhydd rhag barn ac yma i gefnogi’r dysgwyr yn y ffordd orau y gallant. Dewiswch o amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys:
- Gwneud i Hyder Gyfrif
- Fy Rhifau Cyntaf
- Mesur ar gyfer Coginio
Rydym yn gobeithio cyhoeddi mwy dros y misoedd nesaf!
Cyrsiau i Ddod:
Gwneud i Hyder Gyfrif yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Cwm (yn dechrau ddydd Mawrth 20 Chwefror am 5 wythnos)
Gwneud i Hyder Gyfrif yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Sirhywi (yn dechrau ddydd Iau 22 Chwefror am 5 wythnos)
Fy Rhifau Cyntaf yng Nghanolfan Dechrau’n Deg Swffryd (yn dechrau ddydd Mawrth 20 Chwefror am 5 wythnos)
Fy Rhifau Cyntaf @ Nghanolfan Dechrau’n Deg Pen-y-bryn (yn dechrau ddydd Iau 22 Chwefror am 5 wythnos)
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01495 355342 neu 07484039573. Fel arall, gallwch anfon e-bost atom yn multiply.info@blaenau-gwent.gov.uk.
I gadw lle ar unrhyw un o’n cyrsiau, ewch i: www.ticketsource.co.uk/blaenau-gwent-council