Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022
Pob sylw i'w e-bostio yn ôl i Sharon.cargill@blaenau-gwent.gov.uk erbyn Dydd Mercher 31 Awst 2022.
Ein nod yw i Flaenau Gwent fod yn Sir ble mae plant yn cael eu gweld fwyfwy y tu allan yn mwynhau’r buddion o chwarae. Mae gennym awyrgylch wych ym Mlaenau Gwent sy’n ffafriol i chwarae plant ac rydym eisiau annog chwarae mewn awyrgylch sy’n gyfeillgar sy’n darparu amser, lle a chaniatâd i blant chwarae. Bydd hyn yn gofyn bod rhieni, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol yn y gymuned yn adnabod bod chwarae yn hynod bwysig ym mywyd cyfredol plant ac ar gyfer eu datblygiad yn y dyfodol. Rydym eisiau hyrwyddo agweddau cadarnhaol tuag ar hawliau plant i chwarae yn eu cymunedau.
Mae’r Tîm Chwarae yn gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno amrediad eang o gyfleoedd chwarae ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae ein Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn gallu rhoi gwybodaeth gyfredol ar gyfleoedd chwarae a hamdden yng ngwahanol ardaloedd y Fwrdeistref Sirol.
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Rhadffôn: 08000 32 33 39
E-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk
Neges Destun: 07860 025100
Chwarae mewn Ysgolion
Rydym yn awyddus i gynnig awyrgylchoedd chwarae cyfoethog sy’n bodloni anghenion chwarae plant a phobl ifanc Blaenau-Gwent yn eu hysgolion, at ddibenion y tu mewn i’r ysgol a’r tu allan.
Mae’r Tîm Chwarae yn cefnogi ysgolion ledled Blaenau Gwent i asesu a datblygu eu cyfleoedd chwarae trwy gyfarwyddyd a darparu hyfforddiant.
Chwarae yn y Gymuned
Mae’r Tîm Chwarae yn awyddus i annog cymunedau lleol i ymrwymo’n weithgar gyda chyfleoedd i hyrwyddo chwarae. Mae cyfarwyddyd a hyfforddiant ar gael i ddatblygu syniadau a grwpiau cymunedol. Cysylltwch â’r Swyddog Digonolrwydd Chwarae ar: 01495 355576.
Dogfennau Cysylltiedig
- Developing and managing play spaces - Community Toolkit
- Pecyn Cymorth Ysgolion
- Play Sufficiency Assessment & Action Plan 2016 - 2019
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Tîm Gofal Plant Blynyddoedd Cynnar a Chwarae
Rhif Ffôn: 01495 355584
Cyfeiriad: Canolfan Plant Integredig Y Cymoedd Canol, High Street, Blaina, Blaenau Gwent, NP13 3BN
Cyfeiriad e-bost: Claire.smith@blaenau-gwent.gov.uk