Cyfranogiad

Ym Mlaenau Gwent, bydd gan bob plentyn, person ifanc a’u rhieni y cyfle i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Bydd ganddynt fynediad at wasanaethau sy’n bodloni eu hanghenion a’r cyfle i lunio sut mae’r gwasanaethau hyn yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno.  

"Mae cyfranogiad yn golygu bod hawl gennyf i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred allai effeithio arnaf. Cael llais, cael dewis."  

"Proses yw cyfranogiad, nid digwyddiad, a’r canlyniad yw grymuso". (Crowley, A. 2004) 

  • Cyfranogiad Plant 

Mae plant a phobl ifanc yn cynrychioli tua thraean o boblogaeth y Fwrdeistref. Mae darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc fynegi’u barn a chael gafael ar wybodaeth yn hanfodol i waith Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Blaenau Gwent.  

Mae Uwch Gyngor Plant wedi’i sefydlu ym Mlaenau Gwent i alluogi disgyblion o oedran ysgol gynradd i gael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio arnynt.  

Mae pob Ysgol Gynradd ym Mlaenau Gwent wedi ethol dau gynrychiolydd o’u cynghorau ysgol i eistedd ar yr Uwch Gyngor, a fydd yn cwrdd unwaith bob tymor ysgol.  

O’r 1af o Dachwedd 2006, mae’n rhaid i bob ysgol yng Nghymru gael ei gyngor ysgol ei hun yn cynnwys cynrychiolwyr a ddewiswyd gan gyd ddisgyblion. Mae hyn yn sgil Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed, sydd wedi cael ei lofnodi gan 192 gwlad.  

Bydd Uwch Gyngor Plant Blaenau Gwent hefyd yn sefydlu cysylltiadau agor gyda Talk It Up, Fforwm Ieuenctid hynod lwyddiannus Blaenau Gwent.  

Am ragor o wybodaeth am hawliau plant, edrychwch ar rai o’r dolenni gyferbyn. 

Cyfranogiad Pobl Ifanc  

Mae’r Fforwm Ieuenctid yn ymwneud â ‘Rhoi Llais i Bobl Ifanc’. Mae’n darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gael llais ar y materion sy’n effeithio arnynt ac i fod yn weithgar yn y broses o wneud penderfyniadau lleol. . 

Dylai pobi ifanc â diddordeb mewn ymuno â’r Fforwm Ieuenctid fod:  

  • Rhwng 11-25 oed 

  • Yn byw ym Mwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 

  • Eisiau cael rhywun i wrando ar eu barn a gwneud gwahaniaeth 

  • Eisiau dylanwadau ar benderfyniadau ar wasanaethau lleol 

  • Eisiau cwrdd â phobl newydd a dysgu pethau newydd 

  • Eisiau cael hwyl! 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd 

Ffôn: 01495 369610.

neu 

Cyfeiriad e-bost: fis@blaenau-gwent.gov.uk