Tŷ Augusta

Tŷ Augusta Gwasanaethau

Ein nod yw darparu cyfleoedd newydd a phrofiadau gwerthfawr i’n gwesteion sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Ar yr un pryd gall gofalwyr gael seibiant yn ogystal!

  • Mae arosiadau byr ar gael i hyd at bum oedolyn ar unrhyw un adeg
  • Rydym yn defnyddio system fwcio i baru anghenion unigolion gyda’r adnoddau staffio
  • Bydd nifer y cyfleoedd ar gyfer arosiadau yn dibynnu ar asesiad anghenion yr unigolyn a’r gofalwyr
  • Rydym wedi cofrestru i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth sy’n derbyn Gofal Iechyd Parhaus
  • Rydym yn cefnogi defnyddwyr gwasanaeth ynghyd â gwasanaethau trosglwyddo


Gallai’r rhain fod yn rhai rhesymau dros ddefnyddio’r gwasanaeth:

  • Cael seibiant/gwyliau
  • Cael profiad o fyw oddi cartref
  • Datblygu sgiliau penodol e.e. coginio, pendantrwydd, cymdeithasu (neu’r tair sgil)
  • Darparu seibiant ar gyfer gofalwyr

Costau

Cyfrifir costau yn seiliedig ar gyfanswm cost gweithredu’r cyfleuster. Bydd defnyddwyr gwasanaeth unigol yn derbyn asesiad o’u hamgylchiadau ariannol i benderfynu faint fyddant yn ei gyfrannu tuag at y gost wirioneddol.

Darperir prydau dyddiol yn Nhy Augusta. Gall gwesteion brynu prydau/byrbrydau ychwanegol pan fyddant allan yn y gymuned yn ôl eu dewis.

Cyfleusterau

  • Mae’r adeilad cyfan yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae wedi’I ddodrefnu i gynnal pob lefel o anabledd.
  • 1 ardal lolfa fawr.
  • 1 lolfa weithgareddau.
  • Ystafelloedd gwely ar y llawr isaf.
  • 3 ystafell wely, en-suite gyda thaclau codi.
  • Mae i bob ystafell wely ei thoiled ei hun.
  • Mae gan bob ystafell wely ystafell ymolchi neu ystafell gawod gydffiniol.
  • Mae gan bob ystafell wely ddewis o deledu a pheiriant DVD.
  • Cegin wedi’i dodrefnu’n llawn.
  • Ystafell fwyta fawr.
  • Cyfleuster golchi ar wahân.
  • Tir ac ardal batio eang.
  • Gofod parcio ar gyfer 10 cerbyd.
  • Ardaloedd dymunol i gerdded, o fewn pellter byr i Barc yr Wŷl.
  • Agos at orsaf reilffordd gyda chysylltiad i Gaerdydd.
  • Bws mini yn darparu mynediad i gyfleusterau siopa, tafarndai, bwytai, ayb.
  • Swyddfa/ardal dderbynfa ar wahân.

Prydau

Fe’ch cymhellir i siopa a helpu gyda pharatoi prydau sydd at eich dant a’ch chwaeth personol chi.

Staff

Mae tîm y dderbynfa yn cynnwys staff profiadol a gofalgar a’u nod yw creu awyrgylch ymlaciol, cartrefol a chyfeillgar.

  • Ar gyfer pob gwestai neilltuir ‘gweithiwr-cyswllt/gweithwraig gyswllt’ fydd yn sicrhau y cyfarfyddir ag anghenion unigol a gallent ymweld â defnyddwyr y gwasanaeth yn eu cartref
  • Cyflogir staff yn Nhŷ Augusta i gwrdd ag anghenion gwesteion
  • Mae un neu fwy o aelodau staff ar ddyletswydd effro yn y nos
  • Mae staff yn derbyn cyfleoedd hyfforddi rheolaidd, e.e. cynllun QCF
  • Mae’r staff yn derbyn arolygaeth un i un yn rheolaidd ac arolygaeth fel tîm

Gweithgareddau

Ein nod yw cynorthwyo unigolion ym mha weithgareddau bynnag y dymunant gymryd rhan ynddynt. Rydym hefyd yn annog gwesteion i roi cynnig ar weithgareddau newydd er mwyn gallu gwneud dewisiadau ystyrlon yn y dyfodol. Mae gweithgareddau nodweddiadol yn cynnwys:

  • Sinema, theatr
  • Tafarndai, bwytai, clybiau
  • Siopa, gwibdeithiau dydd
  • Dawnsio, gemau bwrdd, gemau cardiau, tenis bwrdd, cerddoriaeth, pêl-droed bwrdd, consol Wii
  • Coginio
  • Picnics
  • iPad a mynediad wi-fi
  • Edrych ar ffilmiau ar y peiriant cyfryngau

Cronfa fwyniannau

Mae cronfa fwyniannau yn bodoli a chynhelir gweithgareddau’n rheolaidd i godi arian.

Gofal meddygol

Gallwch gofrestru fel preswylydd dros dro yng Nglynebwy neu gadw eich meddyg teulu lleol - yn dibynnu ar ble’r ydych yn byw a derbyn ymweliadau gan nyrs gymunedol/ardal.

Addoliad crefyddol

Galluogir gwesteion i fynychu lle o addoliad yn ystod eu harhosiad. Darperir ar gyfer anghenion crefyddol eraill o fewn yr adnoddau sydd ar gael.

Pwrpas

Ein pwrpas yw darparu gofal tymor-byr o ansawdd uchel ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu tra cynorthwywn a chynhaliwn ar yr un pryd eu hannibyniaeth a’u dewis.

Lleoliad

Cyfleuster gofal seibiant dan nawdd y Gwasanaethau Cymdeithasol yw Tŷ Augusta, wedi’i adeiladu i’r pwrpas er mwyn cynnig gofal tymor byr i oedolion gydag anableddau dysgu.

Lleolir y ty ar safle Gwyl Ardd 1992, sydd oddeutu 2 filltir o ganol tref Glyn Ebwy. Gellir mynd ato o’r M4 neu’r A465 drwy ddilyn yr arwyddion ar gyfer “Parc yr Wŷl”.

Gwybodaeth Gyswllt

Tŷ Augusta
Parc Augusta
Victoria
Glyn Ebwy
NP23 8DN

Ffôn: (01495) 305805

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â Hyb IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost:dutyteam@blaenau-gwent.gcsx.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddfeydd Cyffredinol
Heol Gwaith Dur
Glynebwy
NP23 6DN