Ydych chi'n chwilio am wasanaethau lleol sy'n gallu eich helpu?
Gwefan yw Dewis Cymru sy’n ceisio helpu pobl gyda’u llesiant. Dyma’r lle GORAU i bobl fynd am wybodaeth neu gyngor am lesiant – boed eu llesiant eu hun neu lesiant aelod o’r teulu neu ffrind.
Mae ganddo wybodaeth sy’n gallu eich helpu i feddwl am beth sy’n bwysig i chi, yn ogystal â gwybodaeth am bobl a
gwasanaethau yn eich ardal chi sy’n gallu eich helpu gyda’r pethau sy’n bwysig i chi.
Ydy Dewis Cymru yn gallu fy helpu i?
Mae Dewis Cymru wedi ei ddatblygu i helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am gyrff a gwasanaethau sy’n gallu eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu llesiant eu hun, felly rhywbeth i CHI yw Dewis Cymru!
Wrth sôn am lesiant, nid eich iechyd yn unig sydd dan sylw. Rydym ni’n sôn am bethau fel ble rydych yn byw, pa mor ddiogel rydych chi’n teimlo, mynd allan, a chadw mewn cysylltiad â’ch teulu a ffrindiau.
Bydd amgylchiadau pob unigolyn yn amrywio ac mae llesiant yn golygu pethau gwahanol i bobl wahanol. Felly mae Dewis Cymru yma i helpu chi i ddysgu mwy am beth sy’n bwysig i chi.
Pa fath o wybodaeth sydd ar Dewis Cymru?
Mae llawer o wybodaeth ar Dewis Cymru am lesiant, bod yn ddiogel, bod gartref, a bod yn gymdeithasol. Mae ganddo wybodaeth hefyd am reoli’ch arian, a gwybodaeth os ydych chi’n gofalu am rywun arall.
Efallai gwybodaeth gyffredinol fydd hi i’ch helpu i feddwl am beth sy’n bwysig, neu fe allai fod yn rhywbeth mwy penodol – am y mathau o gymorth ychwanegol a allai eich helpu chi i fyw yn eich cartref eich hun mor hir â phosibl, er enghraifft.
Ble alla i ddod o hyd i Dewis Cymru?
Mae ond angen mynd i www.dewis.cymru. Yna cewch chi chwilio am wasanaethau lleol neu bori ein tudalennau gwybodaeth genedlaethol i’ch helpu i feddwl am beth sy’n bwysig i chi. Os oes angen unrhyw help arnoch chi, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio’r ddolen ‘Cysylltu â ni’ ar y wefan a byddwn ni’n hapus i’ch helpu.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
Dewis Cymru
Ewch: www.dewis.cymru