Mae Tîm Adnoddau Cymunedol (TAC) Blaenau Gwent yn wasanaeth ar y cyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Blaenau Gwent. Mae’r TAC yn darparu cymorth i oedolion (dros 18 oed) sy’n byw ym Mlaenau Gwent i fod mor annibynnol â phosibl o fewn eu cartrefi eu hunain. Mae Ailalluogi yn rhaglen fyrdymor o gefnogaeth a therapi dwys yn eich cartref eich hun.
Nod y TAC yw cynnig gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol o ansawdd uchel sy'n sicrhau bod unigolion yn derbyn yr ymyrraeth gywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gan y gweithiwr proffesiynol cywir. Bydd y tîm yn gweithio gydag unigolion i asesu a nodi nodau a chanlyniadau personol, gan weithio gyda chi i gyflawni'r rhain. Gall hyn gynnwys ffisio cymunedol, rheoli cwympiadau, cymhorthion, addasiadau i’r cartref, cyngor a gwybodaeth.
Mae'r tîm Amlddisgyblaethol TAC yn cynnwys:
- Therapi Galwedigaethol
- Ffisiotherapi
- Therapi Lleferydd ac Iaith
- Gweithwyr Cymorth Iechyd a Lles
- Ymarferwyr Cynorthwyol
- Swyddogion Ailalluogi
- Swyddog Adsefydlu Amhariad ar y Golwg (ROVI)
- Gwasanaeth Cwympiadau
- Gwasanaeth Ailalluogi
Os aseswyd bod angen cymorth ailalluogi arnoch, bydd y gwasanaeth a ddarperir yn seiliedig ar eich anghenion penodol a bydd yn anelu at hyrwyddo eich annibyniaeth.
Bydd aelod o'r tîm yn ymweld i drafod eich nodau ac amserlennu ymweliadau dyddiol wedi'u teilwra i'ch anghenion. Wrth i chi symud ymlaen ac ennill annibyniaeth, byddwn yn lleihau ein cefnogaeth yn raddol.
Pa mor hir fydd y gwasanaeth yn para?
Darperir y gwasanaeth hwn ar sail fyrdymor ac mae'n dod i ben unwaith y bydd nodau unigol wedi'u cyflawni. Mae'r hyd yn amrywio yn dibynnu ar y person, gydag uchafswm cyfnod o 6 wythnos.
Gellir gwneud atgyfeiriadau drwy gysylltu â'r hyb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) Gwasanaethau Oedolion ar 01495 315700.
Gwybodaeth Gyswllt
Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, i wneud atgyfeiriad neu adrodd pryderon mewn perthynas â:
- pherson 18 oed neu'n hŷn, cysylltwch â'r Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â'r Hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: : DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Am ymholiadau cyffredinol:
E-bost: : info@blaenau-gwent.gov.uk
Canolfan
ViTCC, Parc Busnes Tredegar, Tredegar, NP22 3EL
Ffôn: 01495369627
Pencadlys:
Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur Glynebwy NP23 6DN