Gofal Cartref a Gofal Ychwanegol

Gofal cartref

Beth yw Gofal Cartref?

Yn Saesneg, defnyddir dau derm: ‘home care’ a ‘domiciliary care’. Mae'n ofal sy'n cael ei ddarparu yn eich cartref eich hun. Nod Gofal Cartref yw sicrhau bod annibyniaeth pobl yn cael ei chynnal.

Mae gofalwyr cartref yn weithwyr proffesiynol sy'n helpu unigolion i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain trwy ymweliadau dyddiol, gan ddarparu cymorth gyda gofal personol e.e. toiled, golchi, codi/mynd i'r gwely a pharatoi prydau bwyd.

Sut mae cael asesiad?

Mae angen i chi gysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol neu ofyn i rywun wneud hynny ar eich rhan.  Gall hyn fod dros y ffôn neu drwy lythyr.

Byddwn yn siarad â chi am eich nodau, anghenion gofal a chymorth, sut i'w bodloni, ac a ydych chi'n gymwys i gael cymorth Gwasanaethau Cymdeithasol. Gelwir hyn yn asesiad.

A fydd yn rhaid i mi dalu?

  • Os ydych chi'n cael gwasanaeth, ar ôl asesiad, byddwn yn ystyried a allwch chi wneud cyfraniad tuag at gost eich gwasanaeth.
  • Bydd eich taliad yn dibynnu ar y lefel o ofal sydd ei angen arnoch a'ch amgylchiadau ariannol. Byddwn yn rhoi gwybod i chi am y gost cyn darparu gwasanaethau.

Beth alla i ei wneud os yw pethau’n mynd o'i le?

  • Os oes gennych unrhyw bryderon o ran y Gofalwr sy'n darparu eich gofal, bydd angen i chi gysylltu â'ch Swyddog Monitro Gofal Cartref neu'r Rheolwr a fydd yn edrych ar eich pryderon.

Os ydych chi'n anhapus â'r gwasanaeth, gallwch naill ai:

  • Gwyno i'r Darparwr Gwasanaeth.
  • Cwyno i'ch Gweithiwr Cymdeithasol .

Fel arall, gallwch gysylltu â'r Swyddog Cwynion ym Mhencadlys yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol

Sylwch nad ydym yn cynnig galwadau at ddibenion siopa, gwasanaethau domestig, neu weinyddu meddyginiaeth yn unig

Gofal Cartref a Gofal Ychwanegol

Nid yw Blaenau Gwent yn darparu gofal cartref yn y gymuned. Mae Blaenau Gwent yn darparu gofal cartref yn y ddau gyfleuster Gofal Ychwanegol yn y fwrdeistref.

Mae gan Flaenau Gwent ddau Gynllun Gofal Ychwanegol sydd ar gael i bobl hŷn. Y rhain yw Llys Glyncoed a Llys Nant-y-Mynydd.

Mae Cynlluniau Gofal Ychwanegol yn cynnig byw'n annibynnol yn eich cartref eich hun gyda chymorth ychwanegol os oes ei angen arnoch.  Mae gan y ddau gynllun gofal ychwanegol eiddo hunangynhwysol yn ogystal â chyfleusterau cymunedol.

Mae cynlluniau gofal ychwanegol yn wych i unigolion a chyplau sydd eisiau eu preifatrwydd eu hunain, gyda'ch drws ffrynt eich hun, yn ogystal â theimlad cymunedol i leihau'r risg o unigrwydd.

I wneud cais i fyw mewn Gofal Ychwanegol neu am ragor o wybodaeth, gweler isod

Llys Glyncoed

College Road, Glynebwy NP23 6LD

08000720966

Mae Llys Glyncoed yn Gynllun Tai Gofal Ychwanegol yng Nglynebwy, gyda 41 o fflatiau hunangynhwysol. Mae pob fflat yn hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae yna ystafelloedd ymolchi en-suite a cheginau wedi'u gosod.

Mae'r adeilad yn eiddo i Linc Cymru ac mae'r Gofal yn cael ei ddarparu gan Gyngor Blaenau Gwent.

Llys Nant-y-Mynydd

Hospital Road, Nant-y-glo, NP23 4LY

Mae Llys Nant y Mynydd yn Gynllun Tai Gofal Ychwanegol yn Nant-y-glo gyda 44 o fflatiau hunangynhwysol, sy'n caniatáu i bobl dros 50 oed fyw'n annibynnol. Bydd tenantiaid iau ag anabledd corfforol hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer un o 4 fflat byw'n annibynnol o fewn y cynllun.

Mae'r adeilad yn eiddo i Unedig Cymru ac mae'r Gofal yn cael ei ddarparu gan Gyngor Blaenau Gwent.

Am fwy o wybodaeth dilynwch y dolenni yn y blwch dolenni allanol.

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, i wneud atgyfeiriad neu adrodd pryderon mewn perthynas â:

  • pherson 18 oed neu'n hŷn, cysylltwch â'r Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion

Ffôn: 01495 315700
E-bost: :  DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk

Am ymholiadau cyffredinol:
E-bost: :  info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:
Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN