Pwy all dderbyn help a chefnogaeth ar gyfer gwasanaethau gofal yn y gymuned?
Gall help a chefnogaeth fod ar gael i bobl sydd:
- ag anabledd neu amhariad synhwyraidd
- â gwaeledd cronig neu yn derfynol wael
- yn camddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- dros 65 oed gydag unrhyw un o’r uchod
Sut i gael help
Mae tri cham pwysig:
1. Dylid cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol
Gallwch wneud hyn eich hun, neu ofyn i rywun ei wneud ar eich rhan. Gallwch ffonio neu ysgrifennu atom.
Bydd yn ein helpu ni i’ch helpu chi os gall pwy bynnag sy’n cysylltu â ni roi cymaint o wybodaeth berthnasol ag sy’n bosibl amdanoch chi a’ch anghenion ar gyfer help a chefnogaeth. Mae hyn yn bwysig gan ein bod yn helpu i sicrhau os y medrwn ni eich helpu neu os y byddai asiantaethau eraill yn fwy defnyddiol.
2. Cynhelir asesiad o’ch anghenion am ofal, cefnogaeth neu gymorth
Nod yr asesiad hwn yw:
- dynodi eich anghenion am ofal
- cytuno ar anghenion eich gofalydd/gofalwyr, lle’n briodol
- dynodi sut y medrwn eich helpu i fod mor annibynnol ag sydd modd
- er mwyn asesu a ydych yn gymwys ar gyfer gwasanaethau (gweler y daflen “Meini Prawf Cymhwyster a’r Weithdrefn Apeliadau”)
Mae’n rhaid cynnal yr asesiad hwn cyn y medrwn drefnu unrhyw gefnogaeth i chi. Wrth gwrs, byddwn yn gwrando arnoch a rhoi ystyriaeth i’ch barn.
Gall fod yn bosibl i un person, megis y Rheolwr Gofal neu’r Therapydd Galwedigaethol Cymunedol, i asesu eich anghenion mewn un cyfarfod gyda chi.
Fodd bynnag, gall fod angen, a bod er eich budd eich hunan, i gael cyfraniadau gan nifer o bobl eraill e.e. meddyg, ffisiotherapydd, gofalwyr i’r asesiad.
Byddem bob amser yn gofyn am eich caniatâd cyn cysylltu ag unrhyw un arall.
Mae asesiad yn fwy na dim ond dynodi’r problemau! Byddwn yn anelu i edrych beth yw agweddau cadarnhaol eich sefyllfa, yn ogystal â’r anawsterau yr ydych yn eu cael ar hyn o bryd.
Pan fyddwn wedi dod i ddealltwriaeth o’ch anghenion, yna gyda’n gilydd medrwn benderfynu sut y caiff eich anghenion eu cyflawni.
3. Cytuno a threfnu ar becyn cefnogaeth
Fel rhan o hyn gallwn drefnu i wasanaethau gael eu darparu.
Gyda chi byddwn yn llunio Cynllun Gofal ysgrifenedig:
- pan gytunir y byddwch yn derbyn gofal a drefnwyd ganneu drwy Gwasanaethau Cymdeithasol, gall hyn gynnwys gwasanaethau gwirioneddol neu arian drwy’r cynllun Taliadau Uniongyrchol i’ch galluogi i brynu eich gofal eich hun (gweler y taflenni Taliadau Uniongyrchol i gael gwybodaeth bellach)
- mewn amgylchiadau pan fydd yn ofynnol cael “pecyn gofal” cymhleth , allai ymwneud ag asiantaethau eraill
A fyddaf yn cael copi o fy asesiad, neu unrhyw ddogfennau arall amdanaf?
Mae gennych hawl i dderbyn copi pan gaiff dogfen asesu neu gynllun gofal ei gwblhau.
Rwy’n gwybod beth yw fy anghenion, pam fod angen i rywun arall eu hasesu?
Chi fydd yn gwybod mwyaf amdanoch eich hunan, ond medrwn eich cynghori os:
- yw eich anghenion unigol yn eich gwneud yn gymwys am wasanaethau gofal a ddarperir gan neu drwy Gwasanaethau Cymdeithasol;
- gall ffynhonnell arall o help nad ydych yn gwybod amdani fod ar gael;
- mae asiantaeth arall, ac nid Gwasanaethau Cymdeithasol, mewn safle gwell i ateb eich anghenion.
Beth fedraf ei wneud os wyf yn anfodlon am ganlyniad yr asesiad?
- Ein nod yw gweithio mewn partneriaeth gyda chi a dod i gytundeb gyda chi am eich anghenion.
- Fodd bynnag, os oes anghytundeb a’ch bod yn dymuno cwyno, mae gennych hawl i wneud hynny.
- Mae gennym daflen gwynion sy’n esbonio sut i wneud hyn.
Gwybodaeth Gyswllt
I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:
- person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
- plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350
Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk
Pencadlys:
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB