Gallwch gofrestru am ein “Casgliad Gwastraff Hylendid Amsugnol” wythnosol am ddim ar-lein
Caiff y gwasanaeth wythnosol hwn ei gasglu bob dydd Gwener ar draws y Fwrdeistref. Rhowch eich “Gwastraff Hylendid Amsugnol” allan cyn 7am ar y diwrnod casglu os gwelwch yn dda.
Caiff preswylwyr sy’n cofrestru am y gwasanaeth “Sachau Hylendid Melyn”. Caiff y rhain eu dosbarthu gan y criwiau ar y diwrnod casglu nesaf.
Gallwch ofyn am fwy o “Sachau Hylendid Melyn” ar-lein
Dylid nodi na chaiff unrhyw geisiadau a wneir ar ôl 12 canol dydd ar ddydd Iau eu gweithredu ar y diwrnod casglu nesaf a byddant yn dechrau ar y dydd Gwener dilynol.
Dylid nodi fod y man casglu ar gyfer “Gwastraff Hylendid Amsugnol” yr un lle â’ch man casglu ailgylchu.
Beth gaiff ei gasglu yn fy sachau hylendid melyn?
• Cewynnau
• Padiau anymataliaeth
• Bagiau stoma
Beth na chaiff ei gasglu yn fy sachau hylendid melyn?
• Ni dderbynnir gwastraff clinigol yn cynnwys dresinau a menig
• Gwastraff cyffredinol yn gymysg gyda chynnyrch hylendid
• Bagiau a thiwbiau catheter
Gofalwyr Plant Cofrestredig
Codir tâl am y casgliad os yw’r preswylydd wedi cofrestru fel gofalwr plant.
Cartrefi Gofal, Cartrefi Nyrsio neu Ysbytai
Nid yw’r gwasanaeth ar gael i gartrefi gofal nyrsio, cartrefi nyrsio nac ysbytai.
Dylid nodi na fedrir rhoi “Gwastraff Hylendid Amsugnol” mewn unrhyw fag heblaw’r “Sachau Hylendid Melyn” a gyflenwyd gan yr Awdurdod neu ni chaiff eich gwastraff ei gasglu.
Bydd Warden Gwastraff yn ymweld ag unrhyw aelwyd a ganfyddir yn defnyddio “Sachau Hylendid Melyn” a gyflenwyd ar gyfer gwastraff cyffredinol a gallai hyn arwain at dynnu’r aelwyd o’r gwsanaeth casglu. Os caiff y “Sachgau Hylendid Melyn” a gyflenwyd eu defnyddio ar gyfer gwastraff cyffredinol aelwyd, ni chânt eu casglu.
Cyn i chi ddechrau byddwch angen
Eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif drwy glicio Creu Cyfrif ar y sgrin fewngofnodi.