Ymweliadau ysgolion

Rydym yn cynnig ymweliadau ysgolion cynradd ac uwchradd am ddim. Mae'r sesiynau hyn yn cynnwys cyflwyniad ailgylchu a fideo, ac yna ystod o gemau a gweithgareddau ailgylchu rhyngweithiol. Mae'r sesiynau taflu sbwriel yn cynnwys fideos a chyflwyniad ac yna sesiwn codi sbwriel o ardal a nodwyd gan yr athro ysgol/dosbarth.

Gallwch deilwra’r ymweliad i ofynion eich ysgol, boed yn gyflwyniad yn ystod gwasanaeth yn unig, neu’n cynnal sesiynau rhyngweithiol lluosog gyda grwpiau blwyddyn unigol. Cysylltwch i drefnu ymweliad.

 

Cyflwyniadau Ailgylchu

Rydym yn cynnig cyflwyniadau ailgylchu am ddim i grwpiau ar draws Blaenau Gwent. Mae ein cyflwyniad yn ymdrin ag ailgylchu’n dda a gwastraffu llai yn y Fwrdeistref, gan edrych ar sut mae ein gwastraff yn cael ei brosesu a ble mae'n mynd. Cysylltwch i archebu cyflwyniad.

 

Canolfan Ewch yn Wyrdd

Rydym yn cynnig ymweliadau safle am ddim â’n hystafell ddosbarth, y “Ganolfan Ewch yn Wyrdd”, sydd wedi’i lleoli o fewn Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartref Roseheyworth ar ddydd Mawrth a dydd Mercher. Darperir cludiant a gellir teilwra'r ymweliadau i ofynion y dosbarthiadau.

 

Sioeau teithiol ailgylchu/sbwriel

Rydym yn mynychu digwyddiadau ar draws Blaenau Gwent yn rheolaidd i godi ymwybyddiaeth o ailgylchu a sbwriel yn y Fwrdeistref, gan ateb ymholiadau trigolion a rhoi llawer o bethau cyffrous am ddim gan gynnwys bagiau cadis bwyd a chynhyrchion defnyddiol wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu.

 

Cysylltwch â Swyddog Ansawdd yr Amgylchedd Lleol - John Mewett

Cyfeiriad: Depo Canolog, Stad Ddiwydiannol Barleyfield, Nantyglo, NP23 4YF

Ffôn: 07811 115983

E-bost: john.mewett@blaenau-gwent.gov.uk