Beth yw Gorfodaeth Gwastraff?
Gorfodaeth Gwastraff yw cymryd camau cyfreithiol yn erbyn pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon ac yn taflu gwastraff. Mae Swyddogion Gorfodaeth yn casglu gwybodaeth a thystiolaeth i erlyn pobl sy’n torri’r gyfraith.
Pam ein bod ni’n cymryd camau cyfreithiol?
Mae tipio’n anghyfreithlon a thaflu sbwriel yn anghyfreithlon. Rydym yn ymroddedig i ddiogelu’r ardal yr ydym yn byw ynddi. Mae tipio anghyfreithlon yn gwneud i’n hardaloedd lleol edrych yn frwnt a blêr. Mae’n costio miloedd o bunnau i’r Awdurdod Lleol ei glirio bob blwyddyn.
Sut ydyn ni’n cymryd camau cyfreithiol?
Bydd Swyddogion Gorfodaeth rheng-flaen yn ymchwilio digwyddiadau o dipio anghyfreithlon a thaflu gwastraff.
Os oes digon o dystiolaeth, byddwn yn rhoi hysbysiad cosb sefydlog neu’n erlyn mewn llys. Gall euogfarn lwyddiannus arwain at ddirwy o hyd at £50,000, record droseddol a/neu ddedfryd carchar.
Beth ydyn ni’n ei wneud i atal tipio anghyfreithlon?
- Yn 2021 fe wnaethom roi 18 hysbysiad cost sefydlog o £400 yn erbyn pobl sy’n tipio’n anghyfreithlon.
- Yn nau chwarter cyntaf 2022 fe wnaethom roi 30 hysbysiad cosb sefydlog £400 yn erbyn sy’n tipio’n anghyfreithlon.
- Defnyddiwn ein data a gwybodaeth i adnabod mannau lle mae tipio anghyfreithlon yn broblem ddifrifol:
- Mae offer CCTV ledled Blaenau Gwent i helpu adnabod troseddwyr
- Gwella’r dealltwriaeth o dipio anghyfreithlon a sbwriel drwy:
- Addysgu plant oedran ysgol
- Codi ymwybyddiaeth am sut i ailgylchu a chael gwared yn gywir â gwastraff