Terfyn Cyflymder Diofyn

Y camau nesaf

Gofynnwyd i bob Cyngor yng Nghymru i gasglu adborth preswylwyr ar y terfynau 20mya er mwyn iddynt allu asesu hyn yn erbyn canllawiau diwygiedig Llywodraeth Cymru ar osod terfyn cyflymder 30mya ar ffyrdd cyfyngedig a ffyrdd terfyn cyflymder 20mya eraill.  Cyhoeddwyd y canllawiau diwygiedig ym mis Gorffennaf.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o’r terfynau cyflymder 20mya ar draws y fwrdeistref, yn dilyn galwad Llywodraeth Cymru i gasglu adborth trigolion ac ar ôl iddi darparu canllawiau newydd ‘eithriad 30mya’ yn 2024. 

Cafwyd 82 o ymatebion i gais y cyngor am adborth. Nododd yr adborth 26 o ffyrdd lle teimlai ymgyngoreion y byddai dychwelyd i’r terfyn cyflymder 30mya yn fwy priodol.

Ar ôl ailasesu’r ffyrdd a nodwyd yn erbyn y canllawiau 30mya wedi’u diweddaru gan Lywodraeth Cymru, sy’n ailadrodd pwysigrwydd darparu amgylchedd diogel i ddefnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed fel cerddwyr a beicwyr, wrth hefyd ystyried swyddogaeth symud a nodweddion y ffyrdd, mae’r cyngor wedi dod i’r casgliad y bydd y newid a ganlyn yn cael ei wneud:

  • Bydd rhan o’r A467, Heol Aberbîg, yn dychwelyd i’w therfyn cyflymder blaenorol o 40mya
  • Dylai pob ffordd arall sydd â therfyn cyflymder o 20mya ar hyn o bryd aros felly. 

Mae’n bwysig nodi na chafodd sylwadau’n ymwneud â’r polisi cyffredinol neu gefnffyrdd eu hystyried, gan mai materion i Lywodraeth Cymru yw’r rhain.