Cyllideb Blaenau Gwent 2025/2026

Cyllideb y Cyngor 2025/26 a thu hwnt

Fel Cyngor, rydym yn cynllunio ein gwariant dros nifer o flynyddoedd. Mae hyn yn cynnwys rhagweld gwariant, incwm a chyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau ledled Cymru o fis Ebrill 2025 yn amrywio o gynnydd o 5.6% i lawr i 2.8%. Ein cynnydd ariannol ni yw 4.8%. Mae'r cynnydd hwn yn gadarnhaol a bydd yn ein helpu i gefnogi cyflogau a phwysau ar ein gwasanaethau.

Er gwaethaf y cynnydd, mae gennym fwlch ariannu o £1.5 miliwn o hyd ar gyfer 2025/26.

Mae'r siart cylch isod yn dangos sut mae ein Cyllideb wedi'i rhannu rhwng gwahanol feysydd gwasanaeth ar hyn o bryd:

I’n helpu i leihau ein bwlch ariannu a gosod cyllideb gytbwys, rydym yn edrych ar sawl thema o safbwynt sefydliadol. Mae'r rhain yn cynnwys:

Adolygu a Chwtogi Adeiladau – Rydym yn gweithredu’n sefydliadol i ystyried y defnydd o'n hasedau fel adeiladau a thir, a lle bo hynny'n briodol, leihau ein defnydd neu roi’r gorau i’w defnyddio. Mae hyn yn helpu i leihau ein biliau fel costau ynni a chynnal a chadw yn ogystal â darparu cyfleoedd o dro i dro i gynhyrchu incwm lle gallwn ni werthu asedau. Rydym am ddod o hyd i £500,000.

Newid y ffordd rydyn ni'n gweithio – Rydym yn newid y ffordd rydyn ni'n gweithio, drwy gydweithio gyda'n Cyngor cyfagos, Torfaen. Rydym yn ystyried ffyrdd eraill o weithio, yn ystyried cyfleoedd i symleiddio ein strwythurau rheolaethol, ac yn buddsoddi mewn dulliau newydd o ymdrin â gwasanaethau drud h.y. gofal preswyl i blant na allant fod gyda'u teuluoedd. Rydym am ddod o hyd i £550,000.

Cynhyrchu Incwm – Byddwn yn edrych ar renti masnachol ar gyfer yr unedau diwydiannol rydyn ni’n yn eu goruchwylio.Rydym am gynhyrchu £380,000.

Adolygu defnydd a darpariaeth gwasanaethau – Fel cyngor rydym yn darparu cannoedd o wasanaethau a swyddogaethau i ystod o ddefnyddwyr gan gynnwys dinasyddion, sefydliadau a busnesau. Rydym yn asesu'r galw am ein gwasanaethau ac yn chwilio'n gyson am ffyrdd mwy economaidd ac effeithiol o gyflawni'r rhain. Rydym am ddod o hyd i £250,000.

Defnyddio Arloesi Digidol i foderneiddio'r ffordd rydyn ni’n gweithio - fel y rhan fwyaf o sefydliadau rydym am ddefnyddio gwelliannau mewn technoleg nid yn unig i ddarparu ein gwasanaethau ond eu gwella a lleihau costau. I ddechrau, rydym am gynhyrchu £200,000.

Prosiectau Ynni – fel Cyngor rydym am ddefnyddio ein safle daearyddol i geisio cynhyrchu incwm o ffynonellau fel ynni adnewyddadwy solar a gwynt. I ddechrau, rydym am gynhyrchu £50,000.

Gosod ffioedd a thaliadau teg – Ar gyfer rhai gwasanaethau caniateir i ni gasglu ffioedd a thaliadau am eu darparu e.e. ffioedd cynllunio a thrwyddedu. Rydym am ddod o hyd i £100,000 drwy godi ffioedd gan 3% ar gyfartaledd - (chwyddiant ynghyd ag 1% (ychwanegol)).

Rydym yn awyddus i bobl ddweud eu dweud ar ein gwasanaethau blaenoriaethol a'r cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2025/26. Fel rhan o'n cynllunio ariannol parhaus, rydym yn amlinellu cynnig bob blwyddyn ar gyfer y Dreth Gyngor ac ar gyfer 2025/26 rydym yn cynnig cynnydd o 4.95%. 

Cymerwch ran yn ein pôl piniwn cyflym yma.