Fel arfer mae gor-daliadau'n digwydd oherwydd na chafodd newid yn eich amgylchiadau ei adrodd pan ddigwyddodd
Byddwn yn anfon llythyr atoch i ddweud wrthych eich bod wedi cael gordaliad fydd yn esbonio'r rhesymau pam y digwyddodd, y cyfnod y mae'n ei gynnwys a'r swm y bydd angen i chi ei ad-dalu.
Os na allwch fforddio ad-dalu'r gordaliad mewn un taliad, yna dylech benderfynu faint y credwch ei dalu i ni bob wythnos a ffonio 01495 311556, anfon e-bost atom i benefits@blaenau-gwent.gov.uk, llenwi'r ffurflen ymholiadau ar-lein. Gallwch hefyd ysgrifennu atom.
Os yw'ch cynnig yn rhesymol, efallai y gallwn gytuno ar yr ad-daliadau ar unwaith. Fodd bynnag, os na allwn gytuno, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen incwm a gwariant.
Gellir ad-dalu'r gordaliad drwy i ni dynnu swm wythnosol o unrhyw Fudd-dal Tai yr ydych yn dal i fod â hawl iddo. Os mai dyma'r hyn sy'n digwydd, byddwn yn anfon llythyr atoch yn esbonio faint sy'n cael ei adennill bob wythnos. Mae'n rhaid i chi dalu'r swm a dynnir i'ch landlord ynghyd ag unrhyw rent a dalwch eisoes i wneud yn siŵr nad ydych yn mynd i dyled rhent.
Os na fedrwn adennill y ddyled drwy'r dull hwnnw dros gyfnod rhesymol, yna byddwn yn gyrru anfoneb atoch yn gofyn am ad-daliad.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch dalu i ni os ydym yn anfon bil atoch.
- Defnyddio system dalu ffôn awtomatig y Cyngor 08456042635. Dylech gael rhif yr anfoneb a'ch manylion cerdyn debyd neu gredyd yn barod**.
- I siarad gyda rhywun a gwneud taliad yn defnyddio'r rhan fwyaf o gardiau debyd neu gredyd, ffoniwch ni ar 01495 311556**
- Drwy'r post Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN
-
Trwy sefyll trefn. Cysylltwch â'ch banc neu defnyddiwch fancio ar y rhyngrwyd. Mae manylion ein Cyfrif Banc yn God Didoli 20-56-64 a Rhif Cyfrif 60363324. Defnyddiwch eich rhif anfoneb fel eich cyfeirnod.
-
Drwy ddebyd uniongyrchol. Archebwch y ffurflen debyd uniongyrchol islaw a'i dychwelyd os gwelwch yn dda.
- Drwy dalu arian yn defnyddio cerdyn PayPoint mewn unrhyw Swyddfa'r Post neu safle PayPoint. Gellir gofyn am hyn o'r adran Budd-daliadau.
Atodiad Enillion Uniongyrchol (DEA)
Dan y dull hwn, mae'n ofynnol i gyflogwyr dynnu arian o gyflog eu cyflogeion ac yna caiff y symiau a dynnir wedyn eu talu i ni i ostwng neu glirio'r ddyled.
Gweithredu Llys
Gellir cynnal gweithredu llys ar unrhyw or-daliadau na chânt eu hadennill. Gallwn wedyn adennill drwy un ai:
- Gweithredu gwarant
- Atodiad enllion
- Tyniadau 3ydd parti
Dogfennau Cysylltiedig
- Ffurflen Debyd Uniongyrchol
- Ffurflen Gorchymyn Banc
- Atodiad Enillion Uniongyrchol - arweiniad i gyflogwy
Gwybodaeth Gyswllt
Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk