Os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cysylltu â chi a fydd yn egluro beth allai'r cap ei olygu i chi.
Budd-daliadau a effeithir gan y cap
Mae cap ar fudd-daliadau yn gyfyngiad ar gyfanswm y budd-daliadau y gallwch ei gael. Mae’n berthnasol i’r rhan fwyaf o bobl 16 oed neu drosodd nad ydynt wedi cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae’r cap ar fudd-daliadau’n effeithio ar:
- Lwfans Profedigaeth
- Budd-dal Plant
- Credyd Treth Plant
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
- Budd-dal Tai
- Budd-dal Analluogrwydd
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith
- Lwfans Mamolaeth
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Lwfans Rhiant Gweddw (Lwfans Mam Weddw neu Bensiwn Weddw os oeddech wedi dechrau ei gael cyn 9 Ebrill 2001)
- Credyd Cynhwysol
Efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis, yn dibynnu ar eich enillion.
Mae'r swm a gewch drwy'r cap budd-daliadau yn dibynnu ar p'un ai:
- Rydych chi'n byw y tu mewn neu'r tu allan i Lundain Fwyaf
- Rydych chi'n sengl neu mewn cwpl.
- Mae eich plant yn byw gyda chi (os ydych chi'n sengl).
Os ydych chi mewn cwpl ond nad ydych chi'n byw gyda'ch gilydd, byddwch chi'n cael y symiau ar gyfer person sengl.
Pan na fyddwch yn cael eich effeithio
Nid yw’r cap yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Os ydych yn rhan o gwpl ac mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y cap fod yn berthnasol.
Ni effeithir y cap arnoch os ydych chi neu’ch partner:
- yn cael Credyd Treth Gwaith(hyd yn oed os yw’r swm a gewch yn £0)
- yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich rhwystro rhag gweithio (gelwir hyn yn ‘allu cyfyngedig i weithio a gweithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith’)
- yn cael Credyd Cynhwysol oherwydd eich bod yn gofalu am rywun ag anabledd
- yn cael Credyd Cynhwysol ac rydych chi a’ch partner yn ennill £793 neu’n fwy y mis ar y cyd, ar ôl treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol
Ni fyddwch yn cael eich effeithio gan y cap os ydych chi neu eich partner neu unrhyw blant dan 18 oed yn byw gyda chi yn cael:
- Cynllun Iawndal y Lluoedd Arfog
- Taliad Annibynol y Lluoedd Arfog
- Lwfans Gweini
- Lwfans Gofalwr
- Taliad Cymorth Gofalwr
- Taliad Anabledd Plant
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (os ydych yn cael yr elfen gymorth)
- Lwfans Gwarcheidwad
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol (a thaliadau cyfatebol fel rhan o Bensiwn Anabledd Rhyfel neu Gynllun Iawndal y Lluoedd Arfog)
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Pensiwn Rhyfel
- Pensiwn Rhyfel Gwraig Weddw neu Bensiwn Gŵr Gweddw
Os ydych yn cael eich effeithio, efallai na fydd y cap ar fudd-daliadau yn dechrau am 9 mis - yn dibynnu ar eich enillion.
Help os yw'r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi
Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) os yw’r cap budd-daliadau yn effeithio arnoch chi a bod angen help arnoch chi.
Os oes angen help arnoch i dalu’ch rhent neu flaendal rhent, cysylltwch â’ch cyngor lleol hefyd. Gallant wirio a ydych yn gymwys i gael taliad tai dewisol, nad yw’r cap budd-dal yn effeithio arno.
Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol
Cysylltwch â’r Adran Gwaith a Phensiynau naill ai:
- trwy’r dyddlyfr yn eich cyfrif ar-lein
- trwy ffonio’r llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Os cewch unrhyw fudd-daliadau eraill
Llinell gymorth cap budd-dal os na chewch Gredyd Cynhwysol
Ffôn: 0800 169 0238
Ffôn (Saesneg): 0800 169 0145
Ffôn testun: 0800 169 0314
Relay UK (os na allwch glywed na siarad ar y ffôn): 18001 yna 0800 169 0145
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am daliadau galwadau
Cysylltwch â Gwybodaeth
Enw'r Tîm: Budd-daliadau
Ffôn: 01495 311556
E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk