Heddiw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant AS, wedi ymweld â Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri yn ei gartref newydd yng Nghapel y Drindod, Blaenau Gwent.
Mae'r hen gapel yn y dref wedi cael ei adfywio gan ddefnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru - cyllid Trawsnewid Trefi, Grant Trawsnewid Llyfrgelloedd, a'r Grant Di-garbon. Cafwyd hefyd Gyllid Ffyniant Gyffredin (Llywodraeth y DU) ar gyfer y prosiect.
Mae'r llyfrgell newydd wrth galon y gymuned leol ac yn darparu mynediad hawdd i ystod eang o wasanaethau a gweithgareddau, gan gynnwys Hyb Cymunedol Cyngor Blaenau Gwent, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a chymorth digidol, a Chyngor ar Bopeth. Dyma hefyd y lleoliad newydd ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned, gan gynnig ystod eang o gyrsiau a dosbarthiadau. Mae'r Llyfrgell fodern newydd yn cynnig Wi-Fi am ddim, ac mae pob llawr yn cynnig mynediad hawdd gyda lifft i gynorthwyo'r rhai sydd ei angen. Rheolir y llyfrgell gan Aneurin Leisure Trust.
Gwnaeth y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet y Cyngor dros Leoedd ac Adfywio; Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas a Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgelloedd Blaenau Gwent, Tracey Jones, gwrdd â Jayne Bryant AS cyn iddi gael taith dywys o amgylch yr adeilad a sgwrsio â'r rhai fu’n gweithio ar y prosiect ac aelodau o'r gymuned sy'n elwa o'r gwasanaethau.
Croesawodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfle i weld yr holl wasanaethau hyn a'r hyn maen nhw’n ei gynnig gan hefyd gwrdd â grŵp cymdeithasol Cymraeg a oedd yn mwynhau eu digwyddiad cymdeithasol rheolaidd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant:
"Mae Capel y Drindod yn adeilad pwysig iawn i Abertyleri ac rydw i mor falch ein bod wedi gallu cefnogi ei drawsnewidiad drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, gan wneud ystod eang o wasanaethau'n fwy hygyrch i'r gymuned leol. Mae dod ag adeiladau gwag a segur yn ôl i ddefnydd gweithredol yn un o gonglfeini ein strategaeth adfywio ac mae'n wych gweld bod y buddsoddiad hwn eisoes yn cael effaith gadarnhaol."
Meddai'r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:
"Roeddwn yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant AS i Abertyleri heddiw i ddangos sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cael ei ddefnyddio i adfywio Capel y Drindod a rhoi gwasanaethau hanfodol wrth galon y gymuned. Gan weithio gyda'n partneriaid yn Aneurin Leisure Trust rydyn ni’n gwneud Capel y Drindod yn ganolfan ffyniannus i'r dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, mentrau cymunedol a gweithgareddau canol y dref. Mae hefyd yn cynnig lleoliad gwych i’n Hyb Cymunedol, gan roi mynediad hawdd i breswylwyr at ystod o wasanaethau’r cyngor, a ffynhonnell o gyngor ar garreg eu drws.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Abertyleri ac mae ailddatblygu Capel y Drindod yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd parhaus ehangach ar gyfer yr ardal ac yn ategu cynlluniau eraill sy'n gysylltiedig ag adfywio sydd wedi'u cyflawni yng nghanol y dref yn ddiweddar."
Dywedodd Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Llyfrgelloedd Blaenau Gwent:
"Mae'r gofod llyfrgell newydd yn anhygoel, ac mae fy nhîm a minnau wedi gweithio'n galed i sicrhau bod ein holl aelodau yn mwynhau defnyddio’r amgylchedd newydd. Rydym yn gobeithio y bydd y gofod newydd yn ysbrydoli hyd yn oed mwy o bobl i ddefnyddio'r adnodd gwerthfawr rydyn ni’n ei ddarparu."
Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:
"Credwn fod y gofod newydd yn ychwanegiad gwych i ganol tref Abertyleri. Mae’r ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned yn cynnig cyfleusterau gwych. Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod lleoliad blaenorol y ganolfan ar dir ysgol yn rhwystr i nifer o bobl rhag ymgysylltu â dysgu, felly trwy ddarparu adnodd gyda chyfleusterau eithriadol rydyn ni’n gobeithio annog mwy o bobl i roi cynnig ar gyrsiau newydd."
Mae Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri yng Nghapel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB.
Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell Blaenau Gwent ar gael yn: aneurinleisure.org.uk/libraries