Yn ddiweddar, ymwelodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Lynne Neagle AS, â chlwb ieuenctid ym Mlaenau Gwent i weld â’i llygaid ei hun sut mae menter gydweithredol rhwng Gwasanaeth Ieuenctid y Cyngor ac ysgolion uwchradd lleol yn helpu i chwalu'r rhwystrau i bresenoldeb rheolaidd yn yr ysgol.
Yn ystod ei hymweliad â Chanolfan Ieuenctid a Chymunedol y Cwm sydd newydd ei hadnewyddu, cyfarfu Ms Neagle â phobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau partner i ddysgu mwy am effaith gadarnhaol gwaith y Gwasanaeth Ieuenctid.
Wrth i Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ddod i ben, tynnodd yr ymweliad sylw at ymdrechion tîm 11–16 oed y Gwasanaeth Ieuenctid, sy'n cefnogi pobl ifanc i ail-ymgysylltu ag addysg, gwella eu lles, ac adeiladu dyfodol mwy disglair. Mae gweithwyr ieuenctid ymroddedig wedi’u sefydlu ym mhob ysgol uwchradd ar draws y fwrdeistref, gan gynnig cymorth un-i-un a grŵp pwrpasol i fodloni anghenion unigol.
Mae un person ifanc, Summer Morris, a gefnogwyd gan y Gwasanaeth Ieuenctid ers yn 14 oed, bellach yn rhoi rhywbeth ’nôl fel gwirfoddolwr.
Dywed Summer: "Wrth fynd trwy'r ysgol es i trwy gyfnod anodd, ond diolch i'r gweithwyr ieuenctid a’m cefnogodd drwy'r cyfnod hwn a hyd yn oed drwy'r coleg, rydw i nawr eisiau bod y person hwnnw sy'n cefnogi pobl ifanc. Mae gwneud y cwrs gwaith ieuenctid Lefel 2/3 yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i mi wneud hynny. Helpodd gweithwyr ieuenctid fi pan roedd angen help arna i, felly nawr rydw i eisiau rhoi rhywbeth ’nôl trwy gefnogi pobl ifanc!"
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle:
"Mae gwaith ieuenctid yn llawer mwy na dim ond gweithgareddau; mae'n creu mannau diogel lle gall pobl ifanc ffynnu a chyrraedd eu llawn botensial.
"Rwy'n falch iawn o weld yr effaith y mae'r cynllun hwn yn ei chael ym Mlaenau Gwent, nid yn unig drwy wella presenoldeb mewn ysgolion, ond hefyd drwy wella lles a hyder pobl ifanc. Mae'n rhoi llais i bobl ifanc ac yn eu helpu i wneud dewisiadau cadarnhaol a manteisio ar gyfleoedd a fydd yn siapio eu dyfodol."
Meddai'r Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:
“Rydyn ni’n gweithio'n agos gyda'n hysgolion a'n partneriaid i wella presenoldeb ar draws Blaenau Gwent. Mae gweithwyr ieuenctid yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymdrech hon - maen nhw'n ffigurau dibynadwy sy'n cefnogi pobl ifanc i fynychu'r ysgol, cyflawni eu nodau, a byw bywydau diogel, hapus ac iach.”