Llongyfarchiadau i Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff yn Nhredegar ar eu hadroddiad ardderchog gan Estyn. Disgrifiwyd Sant Joseff fel ysgol hapus, gynhwysol sy'n rhoi pwys mawr ar les disgyblion a staff.
Tynnwyd sylw at y berthynas gref rhwng disgyblion a staff fel un o gryfderau’r ysgol gyda'r staff yn adnabod disgyblion yn dda. Mae gan yr ysgol ddarpariaeth gref ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol ac mae'n cynnig cwricwlwm sy'n ennyn diddordeb ac yn darparu cyfleoedd dysgu diddorol i ddisgyblion feithrin eu gwybodaeth a'u sgiliau. Mae'r trefniadau diogelu yn gadarn, ac mae plant yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel yn ôl yr adroddiad.
Dywedodd y Pennaeth, John McMorrow:
"Rwy'n hynod falch bod Estyn wedi cydnabod gwaith caled ac ymroddiad ein staff a'n disgyblion, gyda lles wrth wraidd popeth a wnawn. Fel ysgol rydym yn ymdrechu i sicrhau bod ein disgyblion yn ddysgwyr gydol oes gwydn a brwdfrydig. Mae staff a disgyblion yn cydweithio'n agos i hyrwyddo ein gwerthoedd Catholig i greu ysgol groesawgar a chynhwysol sydd ar agor i bob plentyn. Rydym yn cynnig Meithrinfa lawn-amser ac mae lleoedd ar gael ar gyfer Medi 2025."
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Bobl ac Addysg
"Mae hwn yn adroddiad gwirioneddol wych i Sant Joseff ac i gymuned gyfan yr ysgol - da iawn i bawb dan sylw."
Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma.