Mae Ysgol Gynradd Deighton a Chyngor Blaenau Gwent wedi croesawu adroddiad cadarnhaol iawn gan Estyn sydd yn canmol yr ysgol am fod yn amgylchedd ysgogol, diddorol a chefnogol ar gyfer pob disgybl.
Mae’r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dilyn arolwg o’r ysgol yn Nhredegar ym mis Rhagfyr 2023.
Mae’n dweud fod arweinwyr ysgol, staff a llywodraethwyr Ysgol Gynradd Deighton wedi gweithio’n effeithlon fel cymuned i ddatblygu ysgol gynhwysol gyda ffocws ar godi uchelgais pob disgybl a’u datblygu fel dysgwyr cydnerth, gydol oes. Mae’r berthynas rhwng disgyblion ac oedolion yn gryf ac mae partneriaeth yr ysgol gyda’r ysgol yn rhagorol. Mae cefnogaeth effeithiol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, a’r rhai sydd yn agored i niwed. Mae disgyblion yn gwerthfawrogi’r gofal a chymorth ansawdd uchel pan maent yn profi anawsterau cymdeithasol ac emosiynol.
Mae staff yn darparu ystod eang o brofiadau dysgu dilys ac yn ennyn diddordeb disgyblion drwy roi cyfleoedd iddynt a ystyriwyd yn ofalus i ddylanwadu ar yr hyn maent yn ei ddysgu.
Dywedodd Mr Huw Waythe, Pennaeth yr ysgol:
“Rwy’n falch tu hwnt o’r adroddiad hwn. Mae holl gymuned yr ysgol wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau fod ein disgyblion yn derbyn y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Rwyf wrth fy modd fod yr adroddiad yn cydnabod ein staff a Llywodraethwyr ymroddedig a’u gwaith i ddarparu amrywiaeth o brofiadau i’n dysgwyr na fedrent efallai eu cael fel arall.”
Dywedodd y Cyng Haydn Trollope, Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol:
“Rydym mor falch o’n hysgol. Dim ond pan fo pawb yn cydweithio y gellir cael y canlyniad hwn; mae’r staff i lawr o’r pennaeth i’r gofalwr yn gweithio fel un ac yn cael eu gwir werthfawrogi. Y nod yw rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant, a rydym i gyd yn gweithio’n galed i gyflawni hyn. Rwy’n falch i fod yn rhan o gymuned Deighton.”
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Pobl ac Addysg y Cyngor:
“Dylai Ysgol Gynradd Deighton a chymuned yr ysgol gyfan fod yn falch tu hwnt o’r adroddiad gwych hwn gan Estyn. Rydyn ni ym Mlaenau Gwent yn ymroddedig i weithio gyda’n hysgolion ac ystod o bartneriaid ar ein gweledigaeth i rymuso ein dysgwyr i fod yn ddysgwyr uchelgeisiol, moesegol wybodus, gydol oes. Rydym eisiau i’n hysgolion gynnwys pawb a chynyddu llesiant plant a phobl ifanc i’r eithaf ac mae Ysgol Gynradd Deighton yn enghraifft wych o hyn – da iawn bawb!”