Ysgol Gyfun Tredegar yn cael ei chanmol gan Estyn am ethos gofalgar a chynhwysol

Mae Ysgol Gyfun Tredegar wedi cael ei chanmol gan Estyn am greu amgylchedd dysgu gofalgar, diogel a chynhwysol sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi dyheadau ar draws cymuned yr ysgol.

Socials: Da iawn i Ysgol Gyfun Tredegar ar ei hadroddiad diweddar gan Estyn, a ddisgrifiodd yr ysgol fel amgylchedd gofalgar, diogel a chynhwysol sy'n ysbrydoli disgyblion ac yn codi dyheadau ar draws cymuned yr ysgol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau niferus, nododd yr adroddiad:

  • Cymuned ysgol ofalgar, ddiogel a chynhwysol
  • Staff a disgyblion sy'n dangos ymrwymiad cryf i'w hysgol a'u cymuned   
  • Athrawon sy'n adeiladu amgylcheddau tawel, wedi'u rheoli'n dda, ac yn cymhwyso gwybodaeth gref am bynciau
  • Ymrwymiad cryf i hyrwyddo presenoldeb da
  • Ymrwymiad cryf i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol
  • Arweinyddiaeth dawel, bwrpasol gyda ffocws clir ar godi dyheadau a chanlyniadau
  • Llywodraethwyr profiadol a brwdfrydig

Dywedodd y Pennaeth Charlotte Leaves:

"Rydyn ni wrth ein bodd gyda'n hadroddiad Estyn, sy'n dyst go iawn i waith caled ac ymroddiad di-baid ein staff, ein llywodraethwyr, ein disgyblion a'n teuluoedd. Nid yw ein mantra o 'Weithio Gyda’n Gilydd dros Lwyddiant' erioed wedi bod yn fwy amlwg.

"Ar ben hynny, rydym wrth ein bodd bod Estyn wedi taflu goleuni ar ein gwaith o amgylch arweinyddiaeth disgyblion, gan gydnabod hyn fel cryfder nodedig.

Er ein bod yn eithriadol o falch o'r canfyddiadau – a byddwn ni’n dathlu ein llwyddiant ar y cyd – ni fyddwn yn gorffwys ar ein rhwyfau!

"Rydyn ni'n gwybod bod mwy i’w wneud a byddwn ni’n herio ein hunain yn ddi-baid i ddod hyd yn oed yn well a sicrhau hyd yn oed mwy o lwyddiant."

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Llongyfarchiadau i Ysgol Gyfun Tredegar ar yr adroddiad gwych hwn. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n hysgolion ar ein blaenoriaethau i adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes, ac i rymuso pobl ifanc i fyw bywydau gwybodus, annibynnol ac iach. Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir ymrwymiad yr ysgol i'r nodau hyn – da iawn bawb."

Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod ymroddiad yr ysgol i'w gwerthoedd craidd a'r gymuned leol, gyda darpariaethau llesiant sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol werthfawr i ddisgyblion.

Cydnabuwyd canolfan adnoddau dysgu (CAD) yr ysgol, a sefydlwyd ddwy flynedd yn ôl, fel darpariaeth feithringar a chynhwysol sy'n cefnogi disgyblion ag awtistiaeth yn effeithiol, gan eu helpu i ddatblygu hyder, cyfathrebu a sgiliau cymdeithasol.

Mae'r adroddiad yn amlinellu tri argymhelliad allweddol i wella canlyniadau myfyrwyr ymhellach.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at yr adroddiad arolygu llawn, sydd ar gael yma.