Ysbyty Athrofaol y Faenor newydd £360m ar yr amserlen i agor ym mis Tachwedd

Disgwylir y caiff ysbyty newyddaf Cymru ei agor yn swyddogol ganol mis Tachwedd, gryn dipyn ynghynt na’r dyddiad gwreiddiol o fis Mawrth 2021. Mae’n bosibl y gall yr agoriad cynnar yma helpu’r rhanbarth yn ystod ail don Covid-19 a chaiff rhan o’r ysbyty ei baratoi i dderbyn cleifion, os oes angen mwy o gapasiti. Bydd yr amser agor cynnar hefyd yn helpu’r Bwrdd Iechyd i ymateb i bwysau tymhorol y gaeaf.

Mae’r ysbyty newydd yn rhan o gynllun y Bwrdd Iechyd i ailstrwythuro gofal iechyd ar draws Gwent, gyda’r nod o wella iechyd a llesiant i’r holl GIG yn ardal Gwent. Bydd hyn yn golygu newidiadau i Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall, Ysbyty Ystrad Fawr ac Ysbyty Aneurin Bevan. Bydd yr ysbytai presennol hyn yn gwasanaethu fel ysbytai cyffredinol lleol fydd yn canolbwyntio ar ofal arferol a chyffredinol. Bydd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn darparu rhestr lawn o wasanaethau ar ôl mis Tachwedd er fod mwy o wybodaeth yn y llyfryn ‘Mae eich gwasanaethau GIG yng Ngwent yn newid’ sydd ar gael ar y ddolen yma

Disgwylir y bydd Ysbyty Athrofaol y Faenor yn agor ar 17 Tachwedd 2020.  Cafodd ei greu i roi canolfan rhagoriaeth i drin cleifion difrifol wael neu rai gydag anafiadau sylweddol, bydd yn awr yn dod yn Adran Argyfwng ar gyfer cymunedau Gwent. Ysbytai Nevill Hall a Brenhinol Gwent oedd yn darparu’r gwasanaethau hyn yn flaenorol.

Bydd Unedau Mân Anafiadau 24/7 yn dal i fod ar gael yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Nevill Hall ac Ysbyty Ystrad Fawr. Bydd Ysbyty Aneurin Bevan yn parhau i gael Uned Mân Anafiadau ar agor rhwng 9am-7pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc). Gall plant un oed a throsodd gael eu trin yn yr Unedau Mân Anafiadau ond bydd angen iddynt fynd i Ysbyty Athrofaol y Faenor os oes ganddynt salwch sy’n bygwth bywyd neu anaf difrifol.

Mae mwy o wybodaeth am y newidiadau i’r gwasanaethau ar gael ar wefan Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.