Yr athletwr a dorrodd recordiau, Steve Jones MBE, OLY yn derbyn Rhyddid y Fwrdeistref

Heddiw, mae'r marathonwr Steve Jones MBE, OLY wedi derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn swyddogol am ei gyfraniad eithriadol at y byd rhedeg.

Rhoddodd cynghorwyr yr anrhydedd mewn cyfarfod ar-lein – gyda'r torrwr recordiau Steve (sy’n cael ei nabod fel 'Jonesy') yn mynychu’n fyw o'i gartref yn Colorado, yr Unol Daleithiau. Gwnaeth ei deulu a’i ffrindiau hefyd ymuno ar gyfer yr achlysur pwysig.

Nododd y llynedd 40 mlynedd ers buddugoliaeth aruthrol Steve Jones ym Marathon Chicago ym 1984, buddugoliaeth a ddaliodd sylw’r byd a chadarnhau ei le yn hanes athletau. Ar y diwrnod hwnnw ym 1984, gwnaeth Jones o Lynebwy nid yn unig groesi’r llinell derfyn yn gyntaf ond hefyd chwalu recordiau, gan ddangos cyfuniad rhyfeddol o ddyfalbarhad, penderfyniad, ac ewyllys pur. Gosododd record byd newydd, gan gwblhau'r cwrs mewn 2 awr, 8 munud a 5 eiliad, sy’n amser rhyfeddol.

Mae'r mis hwn hefyd yn nodi 40 mlynedd ers i Steve gipio teitl Marathon Llundain. Mae ei restr o gyflawniadau rhedeg yn drawiadol a gellir dod o hyd iddi yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Steve_Jones_(runner)

Mae record Steve hefyd yn cynnwys ennill Marathonau Efrog Newydd a Toronto.

Cyflawnodd Steve hyn i gyd wrth wasanaethu'n falch yn yr Awyrlu Brenhinol. Roedd Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyrlu Rob Woods, hefyd ar yr alwad a siaradodd am wasanaeth Steve fel Technegydd Cyrff Awyrennau, gan weithio ar y C130 Hercules a'r F4 Phantoms.

O dras ddiymhongar, mae Steve, sy'n troi'n 70 eleni, bob amser wedi cadw ei draed ar y ddaear mewn perthynas â’i gyflawniadau anhygoel ar lwyfan y byd. Dywedodd unwaith, "Rwy'n rhedeg gyda fy mhen, fy nghalon a'm perfedd, oherwydd yn gorfforol, dydw i ddim yn credu bod gen i lawer o dalent neu allu. Dechreuais ar y gwaelod a gweithiais fy ffordd i fyny."

Daliodd Steve record marathon Prydain (2:07:13) am 33 mlynedd nes i Mo Farah ei thorri yn 2018!

Dechreuodd redeg fel rhan o dîm o'r Corfflu Hyfforddiant Awyr yng Nglynebwy. Gofynnwyd iddo gymryd rhan mewn pencampwriaeth traws gwlad yn Ynys y Barri ar ôl i gadet arall dynnu allan. Daeth yn 5ed y diwrnod hwnnw yn ei sgidiau ‘Woolworth's’ ac mae’r gweddill (yn llythrennol!) yn hanes.

Llun: Mike Powell

Wrth dderbyn yr anrhydedd heddiw, dywedodd Steve:

"Mae'n anrhydedd enfawr derbyn Rhyddid Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, fy man geni a’m cyn-gartref, lle mae gen i lawer o deulu a ffrindiau. Mae'n deimlad anhygoel ac rwy'n dychmygu mai dim ond y bobl sydd wedi ei dderbyn o'm blaen all ddeall yn iawn. Cefais fy magu fel llawer o blant a phobl ifanc bryd hynny heb lawer, ond rydyn ni ddosbarth gweithiol Cymru yn oroeswyr, ac rwy'n hynod falch o’m gwreiddiau! Doedd gen i ddim cit rhedeg soffistigedig, dim ond pâr o siorts a chrys-t a’m sgidiau Woolworth's, felly byddwn i'n dweud wrth unrhyw un, gyda gwaith caled, penderfyniad a chred ynoch chi’ch hun, y gallwch chi gyflawni unrhyw beth. Diolch i bawb sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol fy ngyrfa redeg, rwy'n eich gwerthfawrogi chi i gyd yn fawr."

Mae Steve, sy’n ddyn teulu, yn byw gyda'i wraig Annette, sydd hefyd o Lynebwy. Mae'n dal i ymwneud â rhedeg, bellach yn hyfforddi pobl sy'n gadael y coleg lle mae'n byw – mae’n rhaid eu bod nhw’n teimlo’n lwcus iawn i gael hyfforddwr o'r fath.

Mae'r Cyngor yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Chlwb Rhedeg Parc Bryn Bach i goffáu cyflawniadau Steve ac arddangos ei fuddugoliaethau yn yr ardal leol. Y nod yw sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael eu hysbrydoli gan ei daith ryfeddol a bod ei etifeddiaeth yn parhau i ysgogi darpar athletwyr.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Steve Thomas:

"Mae Steve Jones yn arwr go iawn, ac mae ei stori yn ymgnawdoli ysbryd Blaenau Gwent! Mae'n parhau’n ddiymhongar hyd heddiw, sy’n dyst i’w gymeriad o ystyried ei gyflawniadau, a ryfeddodd lawer yn y byd rhedeg. Mae Steve nid yn unig yn eicon rhedeg byd-eang ond hefyd yn un ohonon ni - dyn y mae ei daith anhygoel o galon Glynebwy i enwogrwydd rhyngwladol mor ysbrydoledig ag y mae'n rhyfeddol. Mae ei gyflawniadau’n brawf o'r hyn y gellir ei gyflawni trwy benderfyniad pur, ymdrech, ac angerdd diwyro. Mae ei stori’n dangos i ni nad yw mawredd yn dibynnu ar fraint, ond ar ddyfalbarhad, gwaith caled, a chred ddiysgog ynoch chi’ch hun.

"Mae anrhydeddu Steve gyda'r wobr fawreddog hon yn fwy na chydnabod ei ragoriaeth athletaidd, mae'n ymwneud â dathlu ei rôl fel symbol o ddyfalbarhad, rhagoriaeth a balchder i Flaenau Gwent.

"Mae'n deyrnged i ŵr sy'n ein hatgoffa bod hyd yn oed y breuddwydion mwyaf uchelgeisiol o fewn cyrraedd, ac mae'n alwad i ysbrydoli ein hieuenctid i estyn at fawredd. Gadewch i ni sicrhau bod stori Steve yn parhau i fod yn gonglfaen i'n treftadaeth gyffredin, gan ein hatgoffa am byth o bŵer gwytnwch a balchder ein cymuned."

Mae Lee Aherne, Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Cyngor ar y cynlluniau i anrhydeddu Steve. Meddai:

"Fel Cadeirydd Clwb Rhedeg Parc Bryn Bach, roedd yn anrhydedd fawr fod Steve wedi derbyn ein gwahoddiad i ddod ein haelod anrhydeddus cyntaf yn 2017. Mae gweld Steve yn mynd ymlaen i dderbyn MBE a nawr Ryddid Blaenau Gwent yn dyst i'w yrfa athletaidd ragorol."