Ymgyrch newydd i wella presenoldeb ysgolion ym Mlaenau Gwent

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gydag ysgolion i lansio ymgyrch newydd sy'n hyrwyddo'r manteision niferus o fynychu'r ysgol mewn ymgais i roi hwb i gyfraddau presenoldeb.

Mae'r ymgyrch #DdimYmaColliAllan yn tynnu sylw at y manteision niferus o fynd i'r ysgol bob dydd, fel dysgu, gweithgareddau hwyl, cyflawni graddau gwych, rhagolygon gyrfa rhagorol a threulio amser gyda ffrindiau.

Mae gwella presenoldeb ysgol rheolaidd yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor. Rydym yn archwilio ffyrdd newydd o weithio gyda chymunedau drwy Fargen Blaenau Gwent, lle rydym am weithio gyda'n gilydd i adeiladu cymunedau tecach, iachach a chryfach. Mae gwneud yn siŵr bod plant yn mynychu'r ysgol yn ffordd sylfaenol o adeiladu'r cymunedau hynny.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i adeiladu dyfodol disglair i blant a phobl ifanc ym Mlaenau Gwent, gan gefnogi pob plentyn i ffynnu drwy adeiladu sylfeini cadarn ar gyfer dysgu a datblygiad gydol oes, a chanolbwyntio ar les gwybyddol, emosiynol, cymdeithasol a chorfforol. Mae mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn allweddol i hyn, ac mae'r Cyngor yn gofyn i deuluoedd weithio gyda'i gilydd i roi cyfle i bob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial.

Un o fuddion gwirioneddol y ffederasiwn rhwng cynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen yw dysgu a rhannu arfer da. Mae Torfaen wedi gweld gwelliannau gwirioneddol mewn presenoldeb ers dechrau ei hymgyrch Ddim Yma Colli Allan.  

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Rwy'n falch iawn o lansio ein hymgyrch newydd ‘Ddim Yma Colli Allan’, sy'n tynnu sylw at fanteision niferus mynychu’r ysgol yn rheolaidd. Mae’r ysgol yn golygu mwy na dysgu yn unig - mae hefyd yn ymwneud â chyfeillgarwch, gweithgareddau hwyl, a chyfleoedd sy'n helpu plant i ffynnu a chyflawni canlyniadau bywyd gwell.

"Er ein bod yn deall bod rhai absenoldebau, fel salwch, yn anochel, byddwn yn annog rhieni i feddwl yn ofalus cyn cadw plentyn i ffwrdd o’r ysgol. Mae'r rhan fwyaf o fân salwch yn golygu y gall plant barhau i fynychu os ydyn nhw'n teimlo'n ddigon da. Lle bynnag y bo'n bosibl, gwnewch apwyntiadau meddygol a chymerwch wyliau y tu allan i'r tymor.

"Gall trefn dda a phresenoldeb rheolaidd wneud gwahaniaeth gwirioneddol i les meddyliol a chorfforol plentyn. Rydym yn gwybod bod rhai teuluoedd yn wynebu heriau, ac rydym wedi ymrwymo i weithio gyda nhw i ddarparu cyngor a chefnogaeth. Siaradwch â'ch ysgol neu ein Gwasanaeth Lles Addysg os oes angen help arnoch.

"Mae gwella presenoldeb yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor, a gyda'n gilydd gallwn wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."

Mae disgyblion o Ysgol Gyfun Tredegar ac Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru y Santes Fair wedi ymddangos yng nghyhoeddusrwydd lansio'r ymgyrch.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gyfun Tredegar, Charlotte Leaves:

"Rydyn ni'n falch o fod yn cefnogi 'Ddim Yma Colli Allan'. Bob dydd mae pobl ifanc yn dod i'r ysgol, maen nhw'n gwneud hynny dros eu dyfodol - oherwydd mae'r gwersi maen nhw'n eu colli heddiw yn gyfleoedd na allant eu cael ’nôl fory."

Fel rhan o 'Ddim Yma Colli Allan', byddwn yn rhannu manylion am sut rydym yn annog presenoldeb da ar ein gwefan ac ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Oeddech chi'n gwybod y byddai gan ddisgyblion sy'n cymryd hanner diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 90%? Byddai gan y rhai sy'n cymryd un diwrnod i ffwrdd yr wythnos ar gyfartaledd gyfradd presenoldeb o 80%.  

Mwy am 'Ddim Mewn Colli Allan' a Phresenoldeb yn yr Ysgol yma.