Mae Pwyllgor Gweithredol Cyngor Blaenau Gwent heddiw wedi cytuno i werth dros £900,000 o welliannau ffordd ar gyfer 2021-22. Ffocws y gwaith fydd gwaith blaenoriaeth uchel i rwydwaith ffyrdd y Cyngor a gwella ffyrdd preswyl a ffyrdd heb eu dosbarthu. Caiff y ffyrdd preswyl blaenoriaeth uchaf ym mhob un o’r 16 Ward, Ffordd Stad Ddiwydiannol Blaenant ynghyd â ffyrdd A a B a gwaith diogelwch priffordd eu targedu gyda chyllideb o £912,000.
Yn ogystal â’r uchod, mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys nifer o gynlluniau penodol yn defnyddio cyllid Llywodraeth Cymru o £2.158 miliwn. Defnyddir y Gronfa Trafnidiaeth a Chydnerthedd Lleol o £1,675,000 ar gyfer y 3 cynllun islaw:
• Bedwellte Pits, Tredegar i wella cyffordd is na’r safon, darparu llwybr troed addas a seilwaith safle bws ar gost o £990,000
• Seilwaith safleoedd bws ledled y Fwrdeistref yn werth £405,000
• Heol Aber-bîg A4046 – astudiaeth dichonoldeb i asesu cyflwr y ffordd a chefnogi datblygiad cynlluniau yn y dyfodol rhwng Cwm ac Aber-bîg ar gost o £300,000
Defnyddir gweddill y cyllid ar nifer o gynlluniau diogelwch ffordd a’n hymrwymiad i’r cynllun Teithio Llesol. Mae hyn yn golygu y caiff dros £3 miliwn ei wario ar fesurau gwella ffyrdd yn y flwyddyn ariannol hon.
Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol y Cyngor ar yr Amgylchedd:
“Mae hyn yn newyddion gwirioneddol dda gan fod gwella cyflwr ein ffyrdd ym Mlaenau Gwent yn flaenoriaeth uchel i ni, nid yn unig mae’n hollbwysig i’n cymunedau lleol ond hefyd ar gyfer busnesau ac ymwelwyr i’r fwrdeistref. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella ffyrdd Blaenau Gwent ar draws pob rhan o’r fwrdeistref.
Bydd y buddsoddiad helaeth yn helpu i wella ac ymestyn ein rhwydweithiau ffyrdd presennol, gan ddangos ein bod wedi gwrando a gweithredu ar farn y cyhoedd i wella cyflwr ffyrdd preswyl sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’n rhwydwaith.”