Agorwyd Ardal Gemau Aml-ddefnydd (MUGA) newydd sbon a chae 3G wedi'i uwchraddio yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar yn swyddogol heddiw gan Weinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Jack Sargeant AS.
Mae'r cyfleuster chwaraeon cymunedol wedi'i uwchraddio wedi'i ariannu gyda grant o Gronfa Cydweithredu Cyrtiau Chwaraeon Cymru o £80,069 gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. Torrodd Jack Sargeant AS y rhuban ac, ynghyd â gwesteion gwadd, cafodd weld y cyfleuster ar waith gyda phobl ifanc o Ysgol Gyfun Tredegar gerllaw.
Mae'r grant yn fuddsoddiad sylweddol mewn chwaraeon ar lawr gwlad a llesiant cymunedol ar draws Blaenau Gwent, sydd hefyd yn cynnwys gosod paneli solar i wella cynaliadwyedd y safle.
Dywedodd Gweinidog Cymru dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Jack Sargeant AS:
"Mae'n wych agor yr Ardal Gemau Aml-ddefnydd newydd hon yn swyddogol yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar. Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn ategu eraill rydyn ni eisoes wedi'u gwneud yma yn y cae 3G a'r prosiectau arbed ynni, trwy Chwaraeon Cymru.
"Mae ein buddsoddiadau'n dangos ein hymrwymiad i gefnogi chwaraeon ar lawr gwlad, creu cyfleoedd i bobl o bob oed fod yn actif yn eu cymuned leol, a gwneud cyfraniad at adeiladu Cymru iachach, lanach a gwyrddach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Gwyddom pa mor bwysig yw mynediad at gyfleusterau chwaraeon o safon ar gyfer llesiant corfforol a meddyliol, ac mae'r prosiect hwn yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni pan fydd y llywodraeth, awdurdodau lleol a phartneriaid cymunedol yn cydweithio.”
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau yng Nghyngor Blaenau Gwent:
“Bydd y lle newydd gwych hwn yn ganolfan ar gyfer gweithgaredd cymunedol, chwaraeon a llesiant. Diolch i Lywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru am gefnogi’r buddsoddiad hwn mewn pobl a chyfleoedd. Rydym yn falch o gydweithio ag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, ein partner lleol gwerthfawr yr ydym yn gweithio’n agos gydag ef i helpu i adeiladu cymunedau iachach a mwy actif ym Mlaenau Gwent. Mae pob panel solar sy’n cael ei godi yn helpu i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, ac mae’n wych gweld y buddsoddiad mewn pŵer solar yn y cyfleuster cymunedol hwn.”
Ychwanegodd Tom Kivell, Cyfarwyddwr Dros Dro, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:
“Mae’r buddsoddiad hwn yn rhoi mynediad i bobl leol, yn enwedig pobl ifanc, at gyfleusterau o ansawdd uchel ar stepen eu drws. Mae cadw cymunedau’n actif yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, ac mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Dywedodd Owen Hathaway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Mewnwelediad, Polisi a Materion Cyhoeddus Chwaraeon Cymru:
“Canfu ein Harolwg Chwaraeon Ysgol diwethaf yn 2022 fod bron i hanner y plant ym Mlaenau Gwent eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl-fasged, mae traean yn awyddus i chwarae mwy o denis, ac mae un rhan o bump eisiau mwy o gyfleoedd i chwarae pêl-rwyd.
“Oherwydd hyn, roeddem wrth ein bodd yn cefnogi’r prosiect cydweithredu cyrtiau hwn i helpu i ddiwallu’r galw lleol am fwy o leoedd lle gall pobl fwynhau chwarae’r tri chwaraeon hyn yn hamddenol.
“Dros y chwe blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi mwy na £725,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan Chwaraeon Tredegar oherwydd ei fod yn gyfleuster mor allweddol i’r gymuned leol. Yn ogystal â’r gwaith cydweithredu cyrtiau, aeth ein buddsoddiad tuag at greu’r cae 3G, gosod paneli solar a mesurau eraill sydd wedi helpu i wneud y ganolfan yn fwy effeithlon o ran ynni fel ei bod yn rhatach i’w rhedeg.”
I gloi, dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:
"Cenhadaeth Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yw Gwella Bywyd Cymunedol. Rwy'n falch o bawb yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gweithio mor galed i gyflawni hyn a thrwy gyllid ychwanegol y gallwn ni wir wella ein seilwaith a chreu cyfleusterau anhygoel i'r gymuned leol eu defnyddio."
* Mae Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin yn sefydliad nid-er-elw sydd wedi ymrwymo i wella cyfleusterau hamdden a dysgu pobl Blaenau Gwent. Mae pawb sy'n gweithio yn yr Ymddiriedolaeth yn canolbwyntio ar gefnogi a gwella bywyd cymunedol. Mae'r Ymddiriedolaeth yn gweithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid gan gynnwys sefydliadau gwirfoddol, statudol a thrydydd sector i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl ar draws canolfannau chwaraeon, llyfrgelloedd, Parc Bryn Bach, Tŷ a Pharc Bedwellty a dysgu oedolion yn y gymuned.
