Y Cyngor yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus wrth brynu ci bach

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus a gwneud gwaith ymchwil ar werthwyr cyn prynu ci bach y Nadolig hwn, neu ar unrhyw amser arall o’r flwyddyn.

Mae Swyddogion Lles Anifeiliaid sy’n gweithio i’r Cyngor yn profi lefel uwch o gwynion am werthu cŵn heb fod yn iach ac sy’n cael eu cam-ddisgrifio gan fridwyr y dywedir nad oes ganddynt drwydded ac yn gweld prisiau gormodol yn cael eu codi am gŵn bach.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Amgylchedd Cyngor Blaenau Gwent yn cynnwys Safonau Masnach a Lles Anifeiliaid:

“Rydym yn gweithio gyda phartneriaid tebyg i’r RSPCA a heddluoedd Cymru i ddynodi pwy sydd tu ôl i’r gwerthiannau hyn a byddwn yn ymchwilio’r materion mewn partneriaeth gydag asiantaethau gorfodaeth eraill. Os oes gennych unrhyw amheuon am y person sy’n gwerthu’r cŵn bach, cerddwch bant os gwelwch yn dda. Gallwch hysbysu’r Cyngor am fridwyr/gwerthwyr os credwch eu bod yn fferm cŵn bach neu’n fridiwr anghyfreithlon. Os yw hysbyseb yn gamarweiniol, gellir adrodd hyn hefyd i Safonau Masnach.

Os oes gennych unrhyw bryderon llesiant am iechyd y fam a/neu’r cŵn bach, ffoniwch yr RSPCA os gwelwch yn dda gan fod yn rhaid i ni fod yn llais y rhai heb lais a rhwystro’r creulondeb hwn rhag digwydd.”

Cysylltwch â’r Cyngor ar 01495 311556 os gwelwch yn dda os oes gennych unrhyw bryderon am werthu cŵn bach.

Mae’r Cyngor yn rhoi’r cyngor dilynol i unrhyw un sy’n dymuno ci bach neu gath fach.

Cyn ymweld:

• Gwnewch eich Ymchwil
Edrychwch ar broffil y gwerthwr a chwilio eu henw ar-lein. Os ydynt yn hysbysebu llawer o wahanol  dorlwythi o wahanol fridiau, yna mae hyn yn faner goch.

• Gwirio Manylion Cyswllt
Copïwch a chludo’r rhif ffôn i’r peiriant chwilio. Os yw’r rhif yn cael ei ddefnyddio ar lawer o wahanol hysbysebion, safleoedd a dyddiadau, yna mae’n debyg fod hwn yn werthwr twyllodrus.

• Gwirio Oed yr Anifail
Ni ddylid byth werthu cŵn a chathod bach dan 8 wythnos oed – peidiwch prynu gan unrhyw un sy’n hysbysebu ci bach neu gath fach iau na 8 wythnos.

• Gwirio Cofnodion Iechyd yr Anifail
Gwnewch yn siŵr fod y gwerthwr yn rhannu pob cofnod o frechiadau, triniaeth llau a llyngyr a microsglodion gyda chi cyn gwerthu.

Pan fyddwch yn weld

• Gwnewch yn siŵr fod mam yr anifail yn bresennol – os nad yw’r fam ar gael i gwrdd, mae’n annhebyg y cafodd y ci bach neu gath bach eu bridio yno. Gochelwch rhag y gwerthwr yn gwneud esgusodion pam nad yw’r fam yno e.e. wedi mynd at y milfeddyg, yn cysgu neu allan am dro.
• Gwiriwch nad yw’n fam ‘ffug’ – nid yw’r rhan fwyaf o famau ffug yn cysylltu gyda’r cŵn bach gan y byddant yn ofni y bydd y wir fam yn dychwelyd
• Cadwch olwg am gŵn neu gathod bach a gaiff eu disgrifio fel rhai ‘achub’ ond gyda phris llawer uwch na’r disgwyl
• Os y teimlwch eich bod yn cael eich rhuthro neu dan bwyso i dalu, mae hyn yn faner goch!
• Nid yw problemau iechyd a welir adeg prynu yn normal a pheidiwch cael eich darbwyllo fel arall.
• Gochelwch rhag cynigion i gwrdd rywle cyfleus e.e. maes parcio neu wasanaethau traffordd neu safle ‘blaen siop’, sy’n gyffredin gydag eiddo rhent yn llwyr i wneud gwerthiant, neu ‘ystafelloedd gwerthu’ a gedwir ar wahân i fferm cŵn bach gyfagos neu ar y safle.

Mynd i gasglu eich ci bach:

• Peidiwch â chwrdd mewn cilfannau/meysydd parcio archfarchnadoedd/gorsafoedd traffyrdd i gasglu eich ci bach, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â’r man lle cafodd eich ci bach ei eni a’i weld gyda’i fam.

I gael mwy o gyngor am brynu ci bach edrychwch ar wefan RSPCA yn  https://www.rspca.org.uk/adviceandwelfare/pets/dogs/puppy/choosing