Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio gydag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Llywodraeth Cymru ar ddefnydd Capel y Drindod yn y dyfodol. Mae’r Capel yn adeilad amlwg iawn yng nghanol tref Abertyleri.
Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid mewn egwyddor o raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru fydd yn galluogi Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo i ailwampio tu mewn Capel y Drindod i ddod yn gartref newydd ar gyfer llyfrgell y dref a chyrsiau addysg oedolion, oriel gelf a hyb cymorth yn cynnig cyngor ar gyflogaeth a sgiliau. Yn ogystal â hyn, bydd Undeb Credyd SmartMoneyCymru yn darparu gwasanaeth benthyciadau a a chynilion ariannol allweddol gan yr Hyb. Mae hefyd gynllun i leoli peiriant arian ATM o fewn yr adeilad.
Cyflwynwyd cais gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo ar gyfer Trosglwyddo Ased Cymunedol ar gyfer Capel y Drindod ac adeilad presennol Llyfrgell Abertyleri yn Stryd y Castell. Os yn llwyddiannus, byddai’r Ymddiriedolaeth yn edrych ar droi’r hen lyfrgell yn Ganolfan Hyfforddiant yn arbennig ar gyfer pobl ifanc gan ddarparu’r sgiliau i ddechrau busnesau a chael swyddi yn yr economi lleol. Bydd y Ganolfan Hyfforddiant hefyd yn cynnwys gwasanaeth swyddi a hyfforddiant a Siop Gymunedol a Chaffe hefyd yn gweithredu fel cyfleuster hyfforddiant a hybu bwydydd iach a maeth.
Byddai defnydd yr adeilad yn gydnaws gyda blaenoriaethau’r Cyngor yn hyrwyddo iechyd a llesiant ac adeiladau cymunedau cynaliadwy tecach drwy weithio gyda phobl leol i fynd i’r afael â thlodi a diweithdra.
Cafodd tu allan Capel y Drindod ei ailwampio’n wreiddiol fel rhan o Raglen Cydgyfeiriad Ewropeaidd Abertyleri a Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Dai Davies, Aelod Gweithredol dros Adfywio ar ran y Cyngor:
“Mae Capel y Drindod yn adeilad tirnod yn Abertyleri ac mae’n gyffrous gweithio gydag Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo a Llywodraeth Cymru ar gynlluniau a allai ddod â’r safle hwn yn ôl i ddefnydd ar gyfer y gymuned leol. Fel y nodir yn ein Cynllun Corfforaethol, rydym yn parhau’n hollol ymroddedig i ddyfodol economaidd Blaenau Gwent a gwneud cymunedau tecach i’n preswylwyr. Rydym yn croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth ar gynlluniau fydd yn gweithio i ostwng effaith tlodi ar ein cymunedau drwy gynyddu incwm i’r eithaf ac edrych ar gyfleoedd hyfforddiant a sgiliau i wella rhagolygon pobl leol ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar ran Cyngor Blaenau Gwent:
“Fe wnaethom ymrwymo’n ddiweddar i Strategaeth Hamdden a Diwylliant newydd 10-mlynedd ar gyfer y fwrdeistref sy’n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau tebyg i lyfrgelloedd ac Addysg Oedolion, sydd o fudd mawr i breswylwyr lleol, a rydym yn gweithio’n agos gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin i hybu cyfleusterau lle gallwn. Mae hwn yn gyfle gwych ac yn ddyfodol cyffrous i Gapel y Drindod.”
Dywedodd Alun Taylor, Pennaeth Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Adfywio Meysydd Glo yng Nghymru:
“Mae’r Ymddiriedolaeth yn ymroddedig i gynorthwyo gydag adfywio canol trefi yng nghyn gymunedau’r maes glo, fel Abertyleri. Bydd y prosiectau newydd hyn yn dangos sut y gall gweithio partneriaeth gyflawni’r uchelgais a gaiff ei rannu i wneud trefi’r Cymoedd yn fannau llewyrchus a bywiog i fyw a gweithio ynddynt, creu gwasanaethau newydd ar y stryd fawr a helpu i greu hyfforddiant lleol a chyfleoedd swyddi lleol ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:
"Mae hwn yn ddatblygiad gwych i Abertyleri. Bydd lleoliad ar y stryd fawr yn rhoi mwy o fynediad i adnoddau a chymorth y mae’r gymuned eu hangen i ddatblygu gwelliannau ar gyfer byw dydd-i-ddydd.”
Dywedodd Hannah Blythyn, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Bydd adfywio Capel y Drindod yn hybu llesiant a chyflogaeth a gymuned, cynyddu prysurdeb yn y dref a chreu cyfleoedd ar gyfer pobl leol. Mae hyn yn enghraifft wych o sut y gellir defnyddio cefnogaeth drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi i greu hyb lle gall pobl fynd am amrywiaeth o gyngor a chefnogaeth, fydd yn ased i’r holl gymuned.”
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo yn 1999 mewn ymateb i argymhellion gan Dasglu Meysydd Glo y Llywodraeth. Cafodd ei sefydlu fel elusen annibynnol gyda ffocws ar gefnogi a gweithio gyda chyn gymunedau’r meysydd glo sydd fwyaf o angen help i greu cyfleoedd cymdeithasol ac economaidd newydd ar gyfer pobl yn eu cymunedau lleol.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar - https://www.coalfields-regen.org.uk/