Y chwaraewr Snwcer Ray Reardon i dderbyn Rhyddid Bwrdeistref Blaenau Gwent

Bydd Rhyddid Bwrdeistref Blaenau Gwent yn cael ei roi i’r chwaraewr snwcer chwedlonol, Ray Reardon, wedi ei farwolaeth. Cytunwyd ar hyn yn unfrydol yng Nghyfarfod Llawn y Cyngor heddiw.

Ganwyd Ray Reardon yn Nhredegar a gwnaeth gyfraniad mawr i fyd snwcer nid yn unig yn Nhredegar ond ledled Cymru a’r byd. Dominyddodd y gamp am y rhan orau o ddegawd gan ennill chwe Phencampwriaeth Snwcer y Byd rhwng 1970 a 1978 a mwy na dwsin o deitlau proffesiynol eraill yn ystod ei yrfa.

Bu farw ym mis Gorffennaf eleni yn 91 oed.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Smith, Aelod Llywyddol Cyngor Blaenau Gwent:

"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor heddiw wedi cefnogi’r cynnig i roi Rhyddid y Fwrdeistref i’r chwaraewr snwcer Ray Reardon o Dredegar, wedi ei farwolaeth. Roedd Ray yn chwaraewr chwedlonol ac yn un o gymeriadau mawr y gamp. Roedd yn llawn ffocws ac yn benderfynol wrth y bwrdd, ond i ffwrdd ohono roedd yn adnabyddus am ei gynhesrwydd a'i hiwmor - gŵr bonheddig go iawn. Mae Ray yn haeddu'r anrhydedd uchaf y gallwn ei ddyfarnu fel Cyngor."

Ray yw'r ail chwaraewr snwcer i dderbyn yr anrhydedd yma, yn dilyn Mark Williams yn 2019. Dyma'r anrhydedd uchaf y gall Awdurdod Lleol ei roi i unigolyn.

Bydd trefniadau nawr yn cael eu gwneud i ddyfarnu'r anrhydedd yn ffurfiol.