Tîm Cymunedau am Waith a Mwy yn agor drysau i gyflogaeth i bobl ledled Blaenau Gwent.

Mae rhaglen cymorth cyflogaeth drawsnewidiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau trigolion ledled Blaenau Gwent. Mae'r Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn helpu unigolion i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth ac adeiladu dyfodol mwy disglair trwy gefnogaeth bersonoledig, hyfforddiant a mentora.

Wedi'i chyflwyno gan dîm ymroddedig o weithwyr cyflogaeth proffesiynol - gan gynnwys Swyddogion Ymgysylltu, Mentoriaid Cyflogaeth Cymunedol, a Swyddog Hyfforddiant Cyswllt Cyflogwyr - mae'r rhaglen yn cynnig dull cyfannol o helpu pobl 16 oed a hŷn i ennill y sgiliau, yr hyder a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i sicrhau gwaith cynaliadwy.

Ers mis Ebrill 2023, mae'r rhaglen wedi cyflawni canlyniadau trawiadol:

  • Ymgysylltwyd â 1,240 o unigolion, gyda 618 yn cael eu cefnogi i mewn i gyflogaeth (cyfradd lwyddo o 49.8%)
  • 188 o unigolion wedi’u cefnogi drwy'r rhaglen Mewn Gwaith, gyda 65 yn sicrhau gwell cyflog, mwy o oriau, neu gontractau
  • 26 Academi Sector wedi’u cyflwyno i 207 o gyfranogwyr, gan roi sgiliau, cymwysterau a thrwyddedau iddynt
  • 266 o gyfranogwyr wedi cael cyngor gan CACBG, gan arwain at £174,398 mewn enillion ariannol
  • 1,037 o unigolion wedi'u cyfeirio at wasanaethau eraill trwy ymyrraeth gynnar ac ymgysylltu

Grymuso Unigolion Trwy Gymorth Personoledig

Mae'r rhaglen yn darparu mentora un-i-un, cyngor cyflogaeth, a mynediad at gyllideb Rhwystrau a Hyfforddiant sy'n helpu i dalu costau hanfodol fel trafnidiaeth, gofal plant, dillad ac offer. Mae hyn yn sicrhau nad yw cyfyngiadau ariannol yn rhwystro cyfleoedd.

Mae cymorth wedi'i dargedu'n arbennig at y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur, gan gynnwys unigolion sy'n wynebu heriau cymhleth fel diweithdra hirdymor, hyder isel, neu ddiffyg cymwysterau.

Helpu'r Tangyflogedig i Ffynnu

Yn ogystal â chefnogi ceiswyr gwaith, mae'r rhaglen hefyd yn cynnig pecyn cymorth 'Mewn Gwaith' - a ariennir trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU (UKSPF) - ar gyfer unigolion ar gontractau dim oriau neu sy'n gweithio lai nag 16 awr yr wythnos. Mae'r fenter hon yn helpu pobl i uwchsgilio, cynyddu eu horiau, neu drosglwyddo i rolau mwy diogel sy'n talu'n well.

Academïau Sector: Sgiliau sy'n Arwain at Swyddi

Un o nodweddion allweddol y rhaglen yw ei Hacademïau Sector, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chyflogwyr lleol a darparwyr hyfforddiant. Mae'r cyrsiau dwys, diwydiant-benodol hyn yn rhoi’r cymwysterau a'r trwyddedau sydd eu hangen ar gyfranogwyr i ennill lle mewn sectorau fel adeiladu, gofal, lletygarwch, manwerthu ac addysg. Mae llawer o gyfranogwyr yn cael cynnig cyfweliadau ar ôl eu cwblhau, gyda sawl un yn sicrhau cyflogaeth yn uniongyrchol trwy'r academïau hyn.

Cyngor a Chymorth Integredig

Trwy bartneriaeth â Cyngor ar Bopeth Caerffili a Blaenau Gwent (CACBG), mae cyfranogwyr hefyd yn derbyn cymorth amserol ar faterion fel dyled, tai a budd-daliadau lles. Mae'r dull integredig hwn yn sicrhau y gall unigolion ganolbwyntio ar gyflogaeth heb boeni am heriau personol sydd heb eu datrys.

Dywed y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd:

"Mae'r rhaglen hon yn golygu mwy na dod o hyd i swyddi - mae'n newid bywydau. Trwy fynd i'r afael â'r ystod lawn o heriau y mae pobl yn eu hwynebu, rydyn ni’n eu helpu i symud ymlaen gyda hyder a phwrpas. Fel Cyngor Marmot, rydyn ni wedi ymrwymo i weithio i alluogi pawb i wneud y mwyaf o'u galluoedd a chael rheolaeth dros eu bywydau, ac i greu cyflogaeth deg a gwaith da i bawb."

Mae Paige Powell yn un person sydd wedi elwa o'r rhaglen. Ar ôl cwblhau ei Safon Uwch, trodd ffocws Paige o droseddeg i therapi harddwch, gan ariannu hyfforddiant ewinedd a gofal traed trwy ei swydd ran-amser. Dechreuodd gynnig triniaethau gartref a, gydag arweiniad mentor a chefnogaeth gan Fenter Busnes, Ymddiriedolaeth y Tywysog, a Busnes Cymru, datblygodd gynllun busnes. Sicrhaodd leoliad yng Nglynebwy a nododd fwlch yn y farchnad mewn triniaethau amrantau ac aeliau. Er nad oedd yn gymwys i rywfaint o gyllid, talodd y Gronfa Rhwystrau am hyfforddiant ac offer. Helpodd mentora wythnosol hi i baratoi ar gyfer ei lansiad.

Dywedodd Paige: "Mae'r gefnogaeth gan Cymunedau am Waith a Mwy wedi bod yn anhygoel, fyddwn i ddim ble rydw i heddiw hebddyn nhw."

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Cymunedau am Waith a Mwy, neu i ddysgu sut i gymryd rhan, ewch i: www.communitiesforwork.co.uk/cy, neu CfW+triage@blaenau-gwent.gov.uk