Da iawn i Dîm Teuluoedd yn Gyntaf Cyngor Blaenau Gwent ar gyrraedd rownd derfynol categori Gwobrau Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair Gofal Cymdeithasol Cymru yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2025 eleni.
Roedd y tîm yn falch o dderbyn llythyr oddi wrth Dawn Bowden AS, Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn rhannu ei llongyfarchiadau gyda’r tîm ar eu gwaith rhagorol a’u hymroddiad i’r rhai ym Mlaenau Gwent sy’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant.
Mae’r Gwobrau yn cydnabod, dathlu a rhannu gwaith nodedig ym maes gofal cymdeithasol a gofal plant, chwarae a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod gwaith grwpiau, timau a sefydliadau, yn ogystal â gweithwyr o bob rhan o’r sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chydweithredol yng Nghymru.
Fel cyngor, hoffem ddymuno'r gorau i'r tîm sy'n mynd i'r gwobrau terfynol.
Cynhelir y gwobrau ar y 1af o Fai yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.