Swyddogion Cyngor a Gorfodaeth Covid

Fel canlyniad i’r gyfradd uchel bresennol o heintiadau Covid 19 yn ein cymunedau mae’r Awdurdod Lleol yn defnyddio Swyddogion Cyngor a Gorfodaeth Covid i sicrhau fod busnesau ac, mewn cysylltiad â’r Heddlu, y cyhoedd yn gyffredinol yn cydymffurfio gyda’r cyfyngiadau mae’n rhaid i i bawb ohonom gadw atynt er mwyn ein cadw’n ddiogel. Mae’r Swyddogion mewn iwnifform ac yn amlwg iawn a byddant yn patrolio yn ystod y dydd a gyda’r nos i gysylltu gydag unigolion a busnesau i roi cyngor a chefnogaeth i sicrhau y gall pawb ohonom fod yn ddiogel yn ystod y misoedd nesaf.

Er y newyddion diweddar fod brechlyn llwyddiannus yn cael ei ddatblygu i atal y feirws, mae’n bwysig fod pawb ohonom yn parhau i gydymffurfiai â chanllawiau’r Llywodraeth am leihau ei ledaeniad dros gyfnod y Gaeaf. Bydd y Swyddogion Cyngor a Gorfodaeth yn ymweld â gwahanol fusnesau yn cynnwys tafarndai, bwytai, caffes a salonau trin gwallt i sicrhau eu bod yn rhoi amgylchedd lle gall aelodau’r cyhoedd ymweld â nhw, a bod yn hyderus bod y mesurau rheoli y mae busnesau yn eu gweithredu yn eu cadw’n ddiogel.

Mae llawer o fusnesau ym Mlaenau Gwent wedi gwneud ymdrech anhygoel i newid y ffordd maent yn gweithio er mwyn cydymffurfio gyda’r mesurau angenrheidiol i arafu lledaeniad y feirws a bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i weithio gyda phob sector i sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r gofynion rheoleiddio. Bydd Swyddogion Cyngor a Gorfodaeth Covid, Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach yn parhau i gysylltu gyda busnesau a’u cynghori fodd bynnag lle caiff y gyfraith ei thorri yn gyson ac yn fwriadol, yna ystyrir defnyddio pwerau gorfodaeth i gadw pawb ohonom yn ddiogel.

Mae angen i fusnesau asesu risgiau a gweithredu ‘pob mesur rhesymol’ i ddiogelu staff ac aelodau’r cyhoedd. Cafodd yr Awdurdod Lleol bwerau statudol newydd y mis hwn i gyhoeddi Hysbysiadau Gwella Mangreoedd a Hysbysiadau Cau ar gyfer busnesau sy’n methu cydymffurfio gyda’r gyfraith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y gall busnesau gydymffurfio gyda’r gofynion hyn ac maent ar gael ar eu gwefan yn https://llyw.cymru/cymryd-pob-mesur-rhesymol-i-leihau’r-risg-o-ddod-i-gysylltiad-mewn-gweithleoedd-a-mangreoedd-sydd-ar-agor-i’r cyhoedd

Mae canllawiau ar gynnal asesiad risg, templed i’w ddefnyddio, a chyngor ar fesurau ymarferol i’w cymryd ar gael yn: https://www.hse.gov.uk/coronavirus/assets/docs/risk-assessment.pdf

Lle mae angen hynny i’ch busnes, mae canllawiau llawn ar gadw cofnodion profi, olrhain a diogelu, yn cynnwys amserau agor ar gyfer gwybodaeth cyswllt ar gael yn: https://gov.wales/keeping-records-staff-customers-and-visitors-test-trace-protect. 

I gael mwy o gyngor neu i adrodd pryderon am fusnesau, cysylltwch â CBS, Diogelu’r Cyhoedd ar 01495 357813 neu drwy e-bost i: Environmental.Health@blaenau-gwent.gov.uk