Sul y Cofio Blaenau Gwent 2020

Cynhelir gwasanaethau Sul y Cofio ym Mlaenau Gwent yn ystod y cyfnod clo byr cenedlaethol ond ar gyfer nifer gyfyngedig o wahoddedigion yn unig.

Er y bydd cyfyngiadau cenedlaethol yn dal ar waith i adennill rheolaeth ar y Coronafeirws, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y gall gwasanaethau a drefnwyd ar gyfer Sul y Cofio ar ddydd Sul 8 Tachwedd 2020 fynd ymlaen gyda rheolau ymbellhau cymdeithasol a mesurau diogelu eraill. Ni fydd unrhyw orymdeithiau eleni.

Gofynnwn i bobl beidio mynd i unrhyw wasanaeth heb gael gwahoddiad swyddogol  ac i beidio mynychu eu Senotaff lleol rhwng 10am a 11.30am ddydd Sul Tachwedd pan gynhelir gwasanaethau a pheidio ychwaith gasglu mewn grwpiau i nodi’r achlysur yn yr awyr agored neu dan do. Bydd senotaffau ar draws Blaenau Gwent ar agor i breswylwyr ddangos eu parch yn unigol ar adegau eraill, ond gofynnwn i chi beidio trefnu cwrdd ag unrhyw un tu allan i’ch aelwyd a chadw pellter cymdeithasol tra’ch bod yno.

Mae digonedd o ffyrdd eraill i gefnogi Apêl Pabi yn ystod y flwyddyn ddigynsail hon. Mae llawer o syniadau ar wefan y Lleng Brydeinig Frenhinol ar sut y gallech gymryd rhan yn apêl eleni a dangos parch heb adael eich cartref. Ewch i - https://www.britishlegion.org.uk/

Dywedodd y Cynghorydd Brian Thomas, Hyrwyddwr Lluoedd Arfog Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae Sul y Cofio bob amser yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr Blaenau Gwent a deallwn y bydd pobl yn naturiol eisiau dangos eu parch i’r dynion a menywod a wnaeth aberth enfawr yn ystod dau Ryfel Byd a rhyfeloedd eraill. Bydd gwasanaethau Sul y Cofio yn mynd rhagddynt ond mae’n rhaid i ni wneud hynny mewn modd diogel ac o fewn rheolau ac yn unol â’r mesurau cyfredol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith i adennill rheolaeth ar y Coronafeirws yng Nghymru. Gofynnwn i chi ein helpu i weithio i Ddiogelu Cymru drwy ddilyn  cyngor yr ydym wedi ei roi yng nghyswllt gwasanaethau a chyfarfodydd eleni. Yn y geiriau enwog hynny, gobeithiwn  y byddwn yn ‘cwrdd unwaith eto’ i nodi’r achlysur fel arfer y flwyddyn nesaf.”

Caiff digwyddiadau Sul y Cofio ym Mlaenau Gwent eu trefnu gan fudiadau lleol yn cynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, Cynghorau Tref a Chymuned a gyda chefnogaeth y Cyngor. Bydd Grŵp Ymgynghori Diogelwch Digwyddiadau y Cyngor yn gweithio gyda’r trefnwyr i gynllunio digwyddiadau ac argymell unrhyw fesurau diogelu ychwanegol y mae’n rhaid eu cymryd i leihau lledaeniad Covid-19 a diogelu’r rhai sy’n mynychu. Cafodd y rhai sy’n trefnu y digwyddiadau gyfres o reolau caeth i sicrhau fod y digwyddiadau yn ddiogel o ran Covid i bawb sy’n mynychu.