Cafodd siop yn Abertyleri ei gorchymyn i gau gan Farnwr yn eistedd yn Llys Ynadon Casnewydd yn dilyn ymchwiliad Safonau Masnach a ddatgelodd werthiant sigaréts a thybaco anghyfreithlon.
Cyflwynodd Cyngor Blaenau Gwent Rybudd i Gau i Abertillery Mini Market, yn Stryd Somerset yn dilyn cyfnod hir o gasglu gwybodaeth, archwilio’r safle a phryniadau prawf oedd yn cefnogi pryderon gan y cyhoedd bod sigarets a thybaco anghyfreithlon yn cael eu gwerthu yn y siop.
Gwrthwynebodd perchennog y siop y rhybudd a chynhaliwyd gwrandawiad yn Llys Ynadon Casnewydd. Fe wnaeth y perchennog, Mr Rand Adam, ei gynrychioli ei hun yn y gwrandawiad a dywedodd wrth y llys ei fod wedi cymryd y busnes drosodd ar 1 Ebrill 2023. Dywedodd nad oedd yn gwerthu tybaco anghyfreithlon yn ei siop a gwnaeth honiad na fyddai’r pryniad prawf ar 18 Ebrill wedi arwain at brynu tybaco anghyfreithlon a bod hyn oherwydd “celwyddau oherwydd fod gan y Cyngor broblemau gyda’r perchennog blaenorol”.
Fodd bynnag derbyniodd y Llys y dystiolaeth y cynhaliwyd y pryniad prawf ar 18 Ebrill 2023 a bod y tybaco a brynwyd yn ffug yn dilyn datgeliad tystiolaeth arbenigol. Derbyniodd y llys ymhellach fod gweithgareddau troseddol gwerthu sigarets a thybaco ffug yn parhau hyd yn oed ar ôl newid perchennog busnes.
Rhoddodd y llys orchymyn i gau am dri mis tan 2 Awst 2023 neu nes gwneir gorchymyn pellach. Gwaherddir mynediad i’r siop fodd bynnag caniatawyd mynediad i’r tenant i’r fflat uwchben y siop.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunnningham, Aelod Lle ac Amgylchedd ar Gabinet y Cyngor:
“Rydym yn falch gyda chanlyniad y gwrandawiad llys a diolchwn i’r tîm Safonau Masnach am gynnal ymchwiliad mor drwyadl. Gwrandawodd y cyngor ar bryderon preswylwyr a dilyn llwybr gweithredu addas. Gobeithiwn y bydd hyn yn rhybudd i fusnesau eraill a gaiff eu temtio i gymryd rhan mewn gweithgaredd anghyfreithlon.”
Defnyddiodd y Cyngor bwerau statudol dan Ddeddf Troseddu a Phlismona Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2014 i gyhoeddi Rhybudd Cau.