Rhaglen Cymorth Gweithwyr

Bydd Rhaglen Cymorth i Weithwyr a ariannir gan Llywodraeth Cymru ar gael o 4 Rhagfyr, yn cynnig amrywiaeth o gymorth llesiant i’r rhai a gyflogir yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn y sector preifat a’r sector gwirfoddol yng Nghymru, yn cynnwys cynorthwywyr personol. (Byddem yn annog y gweithwyr gofal cymdeithasol hynny sydd mewn cyflogaeth sydd eisoes â mynediad i Raglenni presennol o’r fath i barhau i’w defnyddio).

Caiff y Rhaglen Cymorth i Weithwyr ei chynnig gan Care First sy’n cyflogi cwnselwyr gyda chymwysterau proffesiynol ac arbenigwyr gwybodaeth. Maent yn brofiadol mewn helpu i ddelio gyda phob math o faterion ymarferol a chyflogaeth yn gysylltiedig â llesiant, materion teuluol, perthynas, rheoli dyledion, y gweithle a llawer mwy.

I helpu pobl i ddeall y gwasanaethau a gynigir yn well, bydd gweminar ar 2 Rhagfyr 2020 am 3.30pm (am awr yn cynnwys cyfle i ofyn cwestiynau). Mae’r weminar ar agor i bawb a gyflogir mewn gofal cymdeithasol yn y sector preifat a’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Y ddolen i archebu lle ar y weminar yw
https://attendee.gotowebinar.com/register/2484630607866568462

Byddem yn ddiolchgar pe gallech rannu’r wybodaeth hon gyda phawb sy’n derbyn taliadau uniongyrchol, eu cynorthwywyr personol ac unrhyw sefydliad a gomisiynwyd i gydlynu neu gefnogi gwasanaethau talu uniongyrchol.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at
EAPqueries@socialcare.wales os gwelwch yn dda.